Y Gymanfa Ganu
Gymanfa Ganu Capel Seion
Wrth dyfu fyny trwy fy arddegau roedd tri dyddiad neu gyfnod o'r flwyddyn yn bwysig i mi - cyfnod twrnament rygbi y 5 gwlad, diwrnod rownd derfynol cwpan yr F.A. a Sul y Blodau.
Dw i'n clywed chi'n gofyn, pam Sul y Blodau? Oherwydd mai dyna ddiwrnod Cymanfa Ganu Capel Seion, Drefach, Llanelli - ein cymanfa ni.
Côf plentyn o eistedd un ochr i'r galeri gyda'r bechgyn a'r merched ochr arall, yn rhesi destlus yn ein dillad gorau. Roedd hwn yn ddiwrnod ar gyfer dangos eich dillad newydd wrth gwrs, i'r hen a'r ifanc.
Wedi dod ychydig yn hÿn, ddechrau 70au'r ganrif ddiwethaf cael eistedd ar risiau'r pulpud yn oedfa'r hwyr gan bod y capel yn orlawn a seddi ychwanegol yn cael eu cario mewn i alluogi pawb i gael lle i eistedd. Rhyfeddu at y canu grymus o du'r oedolion heb feddwl y byddwn innau ryw ddiwrnod yn cael mynd i'r llofft yn oedfa'r prynhawn a'r hwyr i gyfrannu at y côr rhyfeddol yma.
Cychwyn yn y côr yn gymharol ifanc dan arweiniad y diweddar Joe Jenkins a Dai Jones Y Post ac ymuno yn rhengoedd y baswyr, nesaf at bibau'r organ i'r dde o'r pulpud ar y galeri. Ni fel bechgyn ifanc yn cael eistedd yn y rhes flaen gyda llaw ac yno yr ydw i hyd y dydd heddiw - siawns nad ydw i ddigon hen i symud nôl bellach!
Mae'n beryglus dechrau enwi pobl wrth hel atgofion fel hyn ond mi alla i ddal weld y cantorion o'r cyfnod cynnar hwnnw yn eu seddau wrth edrych oddi amgylch y galeri ar ddiwrnod Cymanfa. Y baswyr ar y dde, y tenoriaid nesaf atyn nhw, yr altos tu ôl i'r cloc a'r sopranos yn niferus ar y chwith i'r pulpud.
Pe bawn yn dechrau enwi byddai'r dagrau yn cronni wrth hel atgofion melys iawn am bobl sydd cymaint ran o'm magwraeth i - halen y ddaear.
O fewn ychydig flynyddoedd roedd yr athrylith o arweinydd corau, J.Rhyddid Williams wedi ei sefydlu fel arweinydd y gân a dyna i chi brofiad amheuthun oedd ysgol gân dan faton y meistr. Bu ei gyfraniad ef dros gyfnod o oddeutu deugain mlynedd yn ffactor enfawr yn y ffaith fod y gymanfa yn dal i fynd o nerth i nerth a'r ffaith ein bod yn gallu darllen sol-ffa.
Erbyn heddiw mae'r ysgol gân yn dal i gael ei chynnal ym misoedd y gaeaf dan arweiniad sicr Mari Seymour a Gary Anderson. Dilyn y patrwm a sefydlwyd gan Rhyddid fyddwn ni a gwneud yn siwr fod yr 'hard-core' yn gwybod eu gwaith. Mi all pawb arall ymuno er mwyn chwyddo'r canu ond rhain sy'n arwain, y cwmni yma o gantorion a chyfeillion agos.
Rydym wedi bod yn ffodus o organyddion galluog ac mae pedair ar hyn o bryd yn cymeryd y cymanfaoedd yn eu tro. Mi wn faint o straen yw'r paratoi i'r organyddion gyda oriau o ymarfer dwys.
Ar hyd y blynyddoedd mae Pwyllgor y Gymanfa wedi bod yn allweddol gyda swyddogion cydwybodol a chynrychiolaeth o bob llais yn dewis y rhaglen. Mae gan fy nghenhedlaeth i le i ddiolch i'r cantorion am sicrhau ein bod ni, fel pobl ifanc yn y 70au, yn cael lle ar y pwyllgor.
Fe lwyddodd hyn i fagu brwdfrydedd ynom dros ganu corawl a chynulleidfaol yn sicr, yn ogystal a'n bod wedi dysgu llawer am dônau ac emynau.
Mae yna arweinyddion gwadd sy'n aros yn y cof, enwau megis Meirion Jones, John S. Davies a Trystan Lewis ond efallai mai annheg yw peidio enwi'r gweddill hefyd. Maddeuwch i mi.
Yn yr un modd mae yna gymanfaoedd sydd yn aros yn y cof ac un o'r rheinny i mi oedd Cymanfa Ganu 1977 dan arweiniad Meirion Jones, cyn arweinydd Côr y Brythoniaid. Roedd Meirion yn gyfaill i nhad ac yn byw yn Stiniog wrth gwrs ac yn sgil hynny mi ddaeth fy nhaid i lawr gyda Meirion i ganu gyda ni'r baswyr ac roedd hynny yn brofiad amheuthun i mi. Mae dau emyn yn aros yn y cof o'r diwrnod hwnnw - "Nativity", Am Iesu Grist a'i farwol glwy, sydd a llinell fâs arbennig a hefyd "Gwendoline", Disgleiried Golau'r Groes.
Bu sawl cymanfa gofiadwy arall ond yn y blynyddoedd diweddar mae'r cymanfaoedd sydd wedi bod dan faton Trystan Lewis wedi bod yn brofiadau gwych ac mae cyfeillgarwch wedi tyfu rhyngom yn sgil ei ymweliadau â ni yng Nghapel Seion.
Alla i ddim sôn am Gymanfa heb ddwyn i gof fy hoff anthem a ganwyd gennym ar fwy nag un achlysur - "Teyrnasoedd y Ddaear". Hon, i mi, yw breninhes yr anthemau ond mae angen côr llawn a phwerus i fentro ar y gwaith.
O ran emynau rwyf newydd gyfrannu at lyfr newydd mae Rob Nicholls yn baratoi am hoff emynau ac yn cyfeirio at 'Côr Caersalem' fel hoff emyn Cymanfa yn sicr. Cefais brofiad gwych o ddyblu a threblu'r cytgan dan faton y diweddar Meirion Jones a hwnnw'n ein cael i gerdded allan dan ganu. Fe gafwyd profiad tebyg yn gymharol ddiweddar dan arweiniad ysbrydoledig Trystan Lewis, wrth iddo gamu o'r pulpud a cherdded i gefn y capel i werthfawrogi'r canu.
Gan bod ein Cymanfa ar Sul y Blodau mae 'Coedmor' wedi bod yn ffefryn ac yn addas i'r cyfnod - 'Cododd Iesu'. Mae modd lliwio'r emyn yma yn hyfryd gyda'r tawelwch ac yna gorfoledd yr atgyfodiad.
Rhaid crybwyll ein bod wastad wedi cael eitemau safonol yn y Gymanfa hefyd, gan unigolion a phartion. Cafodd perfformiadau pwerus gan gôrau ieuenctid yr eglwys effaith emosiynol iawn arna i.
Wrth sôn am ieuenctid fodd bynnag rhaid cyfaddau bod yna gwmwl bychan ar y gorwel. Am ryw reswm dyw ieuenctid heddiw ddim yn gweld yr un apêl mewn Cymanfa Ganu ac yr oeddem ni yn ifanc. Mae nhw'n cyfaddau eu bod yn profi gwefr ar ddiwrnod y Gymanfa ond dyw'r brwdfrydedd ddim yna.
Canlyniad hyn wrth gwrs yw codi'r cwestiwn am faint y pery'r Gymanfa Ganu ar draws ein gwlad? I mi, mae yn drysor rhy werthfawr i'w cholli ac yn un cyfle mewn blwyddyn i 'agor allan' fel y byddai'r hen gantorion yn ddweud.
Mi fyddwch wedi deall erbyn hyn cymaint mae'r Gymanfa a chanu yn y Gymanfa yn olygu i mi yn bersonol. Diolch i bawb sydd wedi cyfoethogi fy mywyd i gyda'u cyfraniad i Gymanfa Capel Seion ar hyd y blynyddoedd.