Tîm Rygbi’r Beibl

quino-al-a8QuaMV70FE-unsplash.jpg


Pan ddechreuais i fel arweinydd yng Nghapel Seion mi ddefnyddiais yr oedfa gyfoes gyntaf i geisio dangos fod y Beibl yn parhau mor berthnasol ag erioed. Er mwyn gwneud hyn mi wnes i bigo tîm rygbi wedi ei seilio ar gymeriadau o'r Beibl. Mae'n addas fy mod yn edrych yn ôl nawr ar yr engreifftiau ddefnyddiais i bryd hynny, gan ein bod yng nghyfnod y Chwe Gwlad, ac asesu ydy'r Beibl yr un mor gyfoes heddiw. Faint fydd yn cofio rhain ysgwn i?



 

Fe wyr y mwyafrif mai'r ddau ddyn mwyaf mewn tim rygbi fel arfer yw'r ddau ail reng ac yn nhermau'r Beibl mae dau enw yn neidio i flaen y meddwl yn syth - SAMSON a GOLEIATH - dyna i chi Alun Wyn ac Adam Beard ein tîm.

Ni gyd yn cofio'r hanes am dorri gwallt Samson er mwyn dwyn ei nerth. Eiddigedd oedd wrth wraidd hynny wrth reswm ac onid yw eiddigedd yn fyw ac yn iach yn ein hoes ni heddiw. 

Ynghlwm a hyn gallwn edrych ar Goleiath - hanes Dafydd a Goleiath yw'r hen hanes o'r mawr yn gorthrymu'r bach. Onid yw hyn eto yr un mor wir yn ein byd ni heddiw. Sawl gwaith y clywsom am wlad fawr yn ceisio concro gwlad llai a dwyn ei thrysorau?

 

Mae safle'r prop pen tynn yn gwneud i dyn feddwl am rywun bygythiol efallai. Beth am y bygythiad mwyaf i Grist, bygythiad ar ei enedigaeth hyd yn oed - beth am roi HEROD yno. Sawl gwlad yn yr Affrig sy'n dioddef hyd heddiw oherwydd bod unben yn rheoli - dictator.

 

Dewch i ochr arall y sgrym at y prop pen rhydd. Beth am un garw megis BARRABAS efallai. Roedd Barrabas i fod ar y groes wrth ochr Crist am iddo lofruddio ond pan holodd Peilat pwy oedd y dorf am ryddhau, y floedd oedd Barrabas. Ai dyma floedd yr anffyddwyr a'r anghredinwyr heddiw? Unrhywun ond Crist, unrhywbeth ond addoli. Mae'r dorf yn dal i alw enw Barrabas.

 

Yn draddodiadol roedd y bachwr yn un bach ac er bod bachwyr heddiw yn fwy o ran maint dwi am lynu at yr hen draddodiad o gael bachwr llai.

Chi'n cofio hanes SACCHEUS, y casglwr trethi. Fel casglwr trethi roedd yn gweithio i’r Rhufeiniaid, y gormeswyr, ac roedd hefyd yn cymryd mantais o’i swydd ac yn dwyn arian trwy ofyn am fwy na’r swm angenrheidiol, a chadw peth iddo’i hun.

Gofynnodd Iesu am gael dod ato i’w dŷ, a rhoddodd Sacheus groeso cynnes iddo a bu newid mawr yn ei fywyd. Dyma sy'n digwydd heddiw pan adawn ni'r Iesu mewn i'n haelwydydd. Roedd yr Iesu wedi dod i chwilio am, ac i achub y bobl hynny oedd wedi mynd ar goll – sef pobl fel Sacheus! 

Mae nifer o fudiadau yn gwneud hyn heddiw. Gweithio i newid pobl a dangos gwell bywyd iddynt. Peidiwch a dweud wrtha i nad yw hanes Saccheus yn berthnasol i ni heddiw.

 

Yn y rheng ôl mae'r blaenasgellwr ochr agored yn fachan dewr ac yn ei chanol hi trwy'r amser. Oedd yna unrhyw un yn y Beibl mwy dewr na DANIEL.

Onid oes rhaid dangos dewrder i gyhoeddi eich bod yn Gristion yn y gwaith, yn y siop, ar y maes chwarae? Faint ohonom heddiw sydd yn meddu ar ddewrder Daniel? 

 

Ar y flaenasgell arall mae angen dyfal barhad. Wrth feddwl am ddyfal barhad yn y Beibl alla i ddim peidio a meddwl am NOA

Mae yna Gristnogion wedi bod yn ddewr ar hyd yr oesau ac mae Noa yn fy atgoffa o ddyfal barhad y Cristion.  Yn ein hoes ni mae angen dyfal barhad ar y Cristion, yn union fel ag y mae angen dewrder. Mae hanes Noa a'i deulu yn ein hatgoffa fod yr angen hynny yr un mor fyw heddiw.

 

Fe fydda i wastad yn meddwl fod wythwr da, fel Faletau yn ddiweddar, yn clymu'r holl flaenwyr gyda'u gilydd ac wrth feddwl am wythwr fyddai'n arweinydd mae enw MOSES yn aros allan i mi beth bynnag. 

Trwy Moses arweiniodd Duw yr Hebreaid allan o gaethiwed gwlad yr Aifft i wlad Canaan. Moses hefyd dderbyniodd y Gyfraith (a’r Deg Gorchymyn) gan Dduw. Mae hanes Moses, fel arweinydd, yn gweithredu yn sicr yn symbyliad i ni heddiw ac mor berthnasol ag erioed.

 

Fe symudwn ni at yr olwyr a dechrau gyda safle Keiran Hardy o Bontyberem. Rydw i angen un sydd yn fodlon rheoli ac heb fod ofn y gwyr mawr cadarn o'i flaen. Pwy gafodd y gorau ar wr mawr yn fwy na DAFYDD

Cafodd Dafydd fywyd digon lliwgar ac fe ddengys elfennau yn ei hanes megis cenfigen Saul ac anffyddlondeb Bathseba fod y Beibl yn parhau yn berthnasol i ni heddiw. 

 

Pan fydd hyfforddwr tim rygbi yn trafod tactegau fe fydd bob tro yn cynnwys y maswr. Pwy well felly i lenwi'r safle pwysig yma na'r gwr a dreuliodd gymaint o amser ar ddeheulaw'r Iesu - SEIMON PEDR.

Pedr oedd y cyntaf i ddweud mai Iesu oedd y Meseia, ond pan oedd Iesu ar brawf gwadodd Pedr dair gwaith ei fod yn adnabod Iesu.  Roedd yn edifar am wneud hynny, a daeth Iesu ato ar ôl yr atgyfodiad a dangos ei fod yn maddau iddo.

Ie, darlun o'r Iesu maddeugar a dyna yw'n hanes ni heddiw onide. Rydym i gyd yn dal i bechu a'r Iesu yn dal i faddau i ni am ein pechodau.

 

Yn aml mae'r canolwr nesaf at y maswr, yr 'inside centre', yn greadigol ac yn cymeryd gwaith y maswr pan fo hwnnw dan bwysau er engraifft. Pwy well felly fel un i sefyll ysgwydd yn ysgwydd a Pedr na'r Apostol PAUL.

Dioddefodd Paul bob math o berygl ar ei deithiau, ac aeth i’r carchar am rannu’r newyddion da am Iesu. 

Wn i ddim amdanoch chi ond rydw i'n gweld hyn yn debyg iawn i'r bobl sy'n dioddef erledigaeth mewn rhai gwledydd, pobl y mae cyrff megis Amnest Rhyngwladol a Christnogion yn erbyn Poenydio yn gweithio drostynt.

 

Wrth ochr Paul yn y canol fe hoffwn osod gwr dewr a fu'n cyhoeddi dyfodiad Crist i'r byd - ei gefnder, IOAN FEDYDDIWR

Ydy ni'n cario Crist i'r gymuned? Ydy Crist yn y canol? Peidied neb a dweud wrtha i nad oes angen cario Crist i'r byd bellach.

 

Ar y ddwy asgell dwi am roi dau frawd i weithio gyda'u gilydd - IAGO A IOAN. Cafodd Iago a Ioan lysenw gan Iesu – Boanerges, ‘Meibion y Daran’, efallai oherwydd eu bod nhw mor fyrbwyll a diamynedd, fel nifer ohonom. 

Eto i gyd, yn ystod y croeshoeliad gofynnodd Iesu i Ioan ofalu am ei fam, felly yr oedd yna ochr dyner mae'n rhaid, sydd yr un mor bwysig i Gristnogion mewn cyfnod fel hwn.

 

Alla i ddim meddwl am neb  dewrach fel cefnwr na'r gwr oedd yn fodlon wynebu cael ei labyddio, sef cael ei ladd drwy daflu cerrig ato, dros ei gred yn yr Arglwydd Iesu Grist. Y gwr hwnnw oedd STEFFAN wrth gwrs.

Dyna i chi ddewrder anhygoel ac ar ben y dewrder hynny yr ysbryd o faddeuant. Os nad ydy hynna'n gosod esiampl i ni heddiw wn i ddim beth sydd. Ydy dewrder ac ysbryd maddeugar yn amherthnasol heddiw?

 

Ie, hanes erlid, dewrder, cadernid, pechu, dyfal barhad, cariad, maddeuant. Llyfrgell gyfan o hanesion cwbl berthnasol i'n cyfnod ni o hyd ontefe?

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Hiwmor Iach

Next
Next

Ein dyfodol ar-lein.