Albert Schweitzer

ben-hershey-8-fHqPCNy4c-unsplash.jpg
 

Cymorth i’r wanaf a’r mwyaf methedig.

Yn ddiweddar mi ddes i ar draws ychydig nodiadau ar fywyd Albert Schweitzer, gwr enwog iawn yn y ganrif ddiwethaf. Fe ysgrifennwyd y nodiadau yma yn 1960, sef y flwyddyn y cefais i fy ngeni, pan oedd Albert Schweitzer yn 85 mlwydd oed. Dw i wedi clywed amdano ond ychydig o'i hanes sydd yn gyfarwydd i mi. Dw i'n amau yn gryf iawn a fyddai ieuenctid heddiw neu oedolion ifancach na fi yn gyfarwydd ag ef o gwbl.

Mae'r erthygl yn cyfeirio at y cwestiwn oesol - Pwy yw'r dyn mwyaf enwog yn y byd heddiw? Mae yna sawl ateb yn dod o sawl cyfeiriad wrth reswm - rhai yn sôn am rai o fyd chwaraeon, eraill yn sôn am wleidyddd arbennig a rhai yn cyfeirio at wyddonydd neilltuol efallai. Tipyn o gamp yw dewis yn wir!

Ond ym 1960 mi gytunai llawer mai Albert Schweitzer oedd y dyn hwnnw. Cafodd ei eni ar Ionawr 14eg 1875 yn Alsas Uchaf, ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Almaen ac roedd yn dal i weithio yn 85 oed yn 1960. Fe fu farw yn mis Medi 1965 yn 90 oed.

Gwaith dyngarol

Ble'r oedd e'n gweithio? Yn ysbyty Albert Schweitzer yn Lambaréné oedd yn French Equitorial Africa ar y pryd. Erbyn heddiw mae'r ardal yma wedi ei rhannu yn wledydd Chad, Gweriniaeth Canol Africa, Gweriniaeth y Congo a Gabon. Mi ennillodd wobr heddwch Nobel yn 1952 am ei waith yn gwella bywyd pobl Lambaréné.

Oherwydd Albert Schweitzer roedd pobl y byd yn  gwybod am Lambaréné.

Mi oedd yn ddyn galluog ac mi roddwyd sawl teitl iddo gan ddynion - Sgolar gwych; Cerddor ardderchog; meddyg da; cenhadwr enwog. Fe oedd Schweitzer yn sgolor, yn gerddor, doctor a chenhadwr ond yn bennaf disgybl i Iesu Grist oedd Albert Schweitzer.

Roedd e'n ddyn enwog ac fe wyddai pawb mor addfwyn oedd e - ni laddai unrhyw beth; fe wyddai pawb am ei gariad at frodorion Lambaréné a'r cylch ac fe wyddai pawb am ei aberth drostynt. Erbyn y chwedegau roedd pawb yn derbyn ei fod yn ddyn mawr iawn. Ond beth amdano cyn ennill y poblogrwydd yma?

Tyfu fynu

Pan oedd y fachgen bach mae'n siwr ei fod yn wahanol i bob plentyn arall ac yn sglolor da yn yr ysgol! Ai dyna'r hanes?

Gweinidog oedd ei dad ac yr oedd ganddo dair chwaer ac un brawd yn tyfu fyny yn yr Alsas.Roedd yn faban gwael ei iechyd ond fe gryfhaodd wedi cyrraedd y dwy oed.

Pan aeth i'r ysgol am y tro cyntaf roedd plant eraill yn gas wrtho. Fe wrthododd wisgo cap morwr ac esgidiau fel y gweddill a gwisgodd gap dros ei glustiau a chlocsiau ond oherwydd hyn aeth i gasau yr ysgol a'i phethau.

Deuai hen Iddew o'r enw Mausche i'r pentref yn aml gyda chart ag asyn. Gwawdiai'r plant ef a rhedeg ar ei ôl ond ni wnai Mausche ond gwenu'n garedig arnynt.

"Mausche ddysgodd i mi sut i wenu ar rai wna ddrwg i chi" meddai Schweitzer.

Tua'r un adeg aeth gyda fffrind i saethu adar gyda ffon dafl - catapault. Rhoddodd y ddau garreg yn y ffon dafl ac anelu ond ar yr eiliad honno canodd cloch yr Eglwys. Gollyngodd ei ffon a chwifio'r adar i ffwrdd. Nid aeth byth wedyn i ladd adar nac unrhyw anifail arall.

Pan adroddai ei bader gyda'i fam a gofyn i Dduw gofio am aelodau ei deulu a ffrindiau gofynodd i Dduw gofio am bob anifail hefyd.

Pethau bach syml - hanes yr ysgol; ei ymdrech i wenu ar bawb oedd yn gâs wrtho; peidio lladd anifail a'i weddi drostynt.

Dengys hyn i ni fod pethau bach mor bwysig wrth lunio cymeriad y dyn mawr yma. Fe ddylem ni o wlad Dewi Sant yn sicr gofio am wneud y pethau bychain cyn symud ymlaen at y pethau mawr!

Gweithio dros Grist

Fe gyhoeddwyd llyfr gan y diweddar Barch.T.Glyn Thomas yn 1959 dan y teitl "Albert Schweitzwer, Cyfaill Dioddefwyr."

A dyna oedd y dyn yma.

Mae dwy adnod y gellir yn hawdd eu cymhwyso i ddisgrifio Albert Schweitzer 

"Rhoddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw"

o 'r llythr at y Rhufeiniaid.

Gwrthododd gynigion o safle uchel droeon ac aberthodd hawddfyd i helpu brodorion Affrica, i'w gwasanaethu yn ysbryd Iesu Grist.

Yr adnod arall yw geiriau Iesu Grist a gofnodir yn efengyl Mathew -

"Yn gymaint ei wneuthur ohonoch i un o'r rhai bychain hyn,

 i mi y gwnaethoch."

Medd Crist - pan ydych yn garedig wrth rai anffodus, pan helpwch y gwan a bod yn garedig yr ydych yn gweithio drosof fi.

A dyna wnaeth Albert Schweitzer yn Lambaréné.

Beth am i ninnau ddilyn ei esiampl a gweithio dros Iesu Grist wrth i ni ddod dros y cyfnod anodd diweddar yma.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Llawenydd

Next
Next

Yr Eglwys ôl-Cofid. Rhan 2.