A Oes Heddwch?

Screenshot 2021-04-16 at 17.25.29.png

‘Heddwch o’n mewn, i ddifa llygredd calon,

Heddwch i’th saint yng nghanol eu pryderon,

Heddwch i’r byd yn lle ei frwydrau creulon,

Heddwch y cymod.’

 

Fe ddywedodd Thomas à Kempis, ‘Y mae’r gwir heddychwr yn caru heddwch, yn cadw heddwch ac yn creu heddwch.’ Gwaetha’r modd y mae’r math hwn o heddychwr yn brin iawn heddiw yn y byd, ac oddimewn i Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist.‘ 

Yn gwbl addas, mae’r emynydd yn dechrau, nid ym mhen draw’r byd, ond gydag ef ei hun: ‘Heddwch o’n mewn, i ddifa llygredd calon.’ 

 

Onid dechrau yn y lle anghywir a wnawn yn aml, a gweld bai ar

bawb a phopeth? Dywed Gwenallt yn un o’i ‘Epigramau’:

‘Fe fyddi di, ddyn, yn trefnu cymdeithas

Ac yn ceisio datrys problemau di-ri,

Ond ni weli di yr anhrefn sydd ynot dy hunan,

Ac mai’r broblem gongl-faen ydwyt ti.’

 

Mae’n bwysig ein bod yn dechrau gyda ni ein hunain, a dyma’n union ywcyngor yr Arglwydd Iesu Grist yn ei bregeth ar y mynydd.

 

“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'chbarnu chi.  Oherwydd cewch chi'ch barnu yn yr un ffordd â dych chi'nbarnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi'n ei ddefnyddio ar bobl eraillfydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi."

 

Mae mor hawdd gweld bai ar bobl eraill a phwyntio bys. Pan ydym ynpwyntio bys at rywun, mae’r tri bys arall yn pwyntio atom ein hunain. Ynaml iawn wrth feirniadu pobl eraill, nid ydym yn gwybod y stori i gyd. 

 

Beth am y geiriau olaf yn y bennill ar gychwyn y darn yma -

‘Heddwch i’r byd yn lle ei frwydrau creulon,

Heddwch y cymod.’

 

Clywch gyfaddefiad David Lloyd George am y Rhyfel Byd Cyntaf, 

‘It was a war which none of us wanted. It was something

into which we stumbled and staggered like drunken men.’

Fel y cyfaddefodd Lloyd George, dyma’r union berygl y maegwleidyddion ein gwlad yn syrthio iddo o hyd. Mae mor hawdd dechraurhyfel, ond nid yw mor hawdd ei ddirwyn i ben. Yn ddieithriad, nid oesneb yn ennill mewn rhyfel, ac ar ei ddiwedd bydd problemau a chasinebpobl tuag at ei gilydd yn ganwaith gwaeth. 

 

Map o Gymru, colomen, a’r groes - dyma arwyddlun Cymdeithas y Cymod, sef Cymdeithas Heddwch Cristnogion Cymru.

Mae’r gymdeithas hon yn croesi pob ffin enwadol, ac yn agored i bawbsy’n credu yn Efengyl Tangnefedd ein Harglwydd Iesu Grist. Mae'rarwyddlun yn cynrychioli tri peth, sef Cymru ein gwlad a’i phobl, heddwch â Duw a chyda’n gilydd, a’r groes sy’n arwydd o fuddugoliaethIesu Grist dros bechod, angau a’r bedd.

 

Yn gyntaf: y map o Gymru

Mae yna englyn dda iawn a luniwyd gan dim Talwrn y Beirdd y Preseli ary testun Dial.

Ni wn pam. Am bob camwedd welwn ni.

Talu'n ôl yw'r duedd.

Trwy'r byd onid torri bedd

Wna dial yn y diwedd?

Oni bai am warchodaeth Duw drosom ni fel Cymry ar hyd y canrifoedd, byddai wedi darfod arnom ni. Yn y chweched ganrif roedd pobl Cymru yn mynd drwy gyfnod o gyfnewidiadau ac ansicrwydd mawr. Roedd hi’ngyfnod argyfyngus, ond ymatebodd Dewi Sant a’i gyd fynaich i alwadDuw i efengyleiddio pobl Cymru a’u cadw'n genedl iddo’i hun.

 

Yn ddiweddarach yn hanes ein cenedl, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, tyfodd yr ymdeimlad o angen pobl Cymru i gael y Beibl yn eu hiaith euhunain. Ni wyddai’r werin bobl fawr ddim am gynnwys yr Efengyl, ac roedd ofergoeliaeth yn rhemp drwy’r holl wlad, ond ymatebodd William Salesbury, William Morgan, Thomas Huet ac eraill i’r dasg enfawr o gyfieithu’r Beibl i’r iaith Gymraeg. 

 

Yn y ddeunawfed ganrif, er bod y Beibl yn yr iaith Gymraeg,

roedd mwyafrif gwerin Cymru yn parhau'n anllythrennog ond unwaitheto daeth Duw i’r adwy drwy symbylu pobl fel Gruffydd Jones, Llanddowror, Thomas Charles ac eraill i ddysgu’r werin i ddarllen GairDuw yn eu hiaith eu hunain.

Yn ail, y golomen sy’n symbol o heddwch a gobaith.

Mae’r golomen yn y Testament Newydd yn symbol o’r Ysbryd Glân,

fel y gwelwn yn hanes bedydd Iesu Grist. Medd Marc, 

‘Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o’r dwr, dyma’r nefoedd ynagor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn arno fel colomen ac yn dodarno.

 

Yn yr Hen Destament cawn hanes colomen yn dychwelyd i arch

Noa ‘gyda deilen olewydd yn ei phig, a honno newydd ei thynnu.’ 

I Noa arwyddai’r ddeilen fod y dyfroedd yn cilio, ac y deuai’r ddaear las unwaith eto i’r golwg.

Newyddion da’r golomen i Noa oedd bod y dilyw ar drai, ac y byddaiDuw yn rhoi cyfle arall i ddyn. Am hynny, negesydd gobaith yw’rgolomen, a dywed wrthym am beidio â rhoi’r gorau i’r ysbryd 

 

Y trydydd arwyddlun yw’r groes.

Y mae croes Crist wedi ei gosod ar fap ein gwlad. Croes wag yw hi,

sy’n arwyddo buddugoliaeth yr Arglwydd Iesu Grist dros bechod, angaua’r bedd. Yn ystod ei weinidogaeth fe ddysgodd Iesu Grist ei ddisgyblioni faddau, ac ar y groes, yn anterth ei boen, fe wnaeth ef ei hun yr hyn a ddysgodd i eraill, ‘Fy Nhad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.’

 

I grynhoi. Mae arwyddlun Cymdeithas y Cymod yn berthnasol iawn i’nbyd heddiw. Mae’r groes wag yn arwyddo tangnefedd buddugoliaethusIesu Grist, y golomen yn arwyddo cymorth yr Ysbryd Glân, a’r map o Gymru yn ein hatgoffa o’r genhadaeth fawr y’n galwyd iddi.

Er mwyn sicrhau heddwch yn ein byd mae'n rhaid i ddyn chwarae ei ran ac yn sicr mae'n rhaid i ni, fel Cristnogion, chwarae ein rhan. Mi hoffwnddyfynnu tri arwr heddychlon - Martin Luther King, Y Fam Theresa a Mahatma Gandhi. 

 

"Rwyf wedi penderfynu glynu wrth gariad, mae casineb yn faich rhydrwm i'w ysgwyddo."

 

"Rhaid i ni feithrin a chynnal y gallu i faddau. Mae'r sawl sy'n amddifado'r gallu i faddau'n amddifad o'r gallu i garu. Mae rhyw ddaioni yn y gwaethaf ohonom. a rhyw gymaint o ddrwg yn y gorau ohonom. Pan sylweddolwn hynny, byddwn yn llai tueddol i gasau ein gelynion."

"Y mae llygad am lygad yn dallu'r byd."

 

"Y mae gweithredoedd da'n ddolenni sy'n ffurfio cadwyn o gariad."

 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Hyd yr Eithaf

Next
Next

Cyfnod Aur