Daniel yn tystio.

gentrit-sylejmani-JjUyjE-oEbM-unsplash.jpg

Mae datgan ffydd a thystiolaethu i bŵer yr Arglwydd yn ein bywyd, yn enwedig heddiw pan mae gymaint o ymateb anffafriol ar lwyfannau cymdeithasol, yn dangos argyhoeddiad a hyder o’r radd flaenaf.


Mae aelodau capel yn Resolfen ger Castell-nedd yn dweud eu bod yn teimlo balchder aruthrol wrth i un o'u haelodau ddiolch am eu cefnogaeth wedi iddo gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo. 

Mewn cyfweliad â'r BBC dywedodd y nofiwr Daniel Jervis ei fod mor falch i fod yn Gristion. Fe ddiolchodd i aelodau ei gapel, Sardis y Bedyddwyr yn Resolfen, a chapel yn Rhydaman am weddïo drosto wrth iddo baratoi i nofio yn ras 1,500m dull rhydd y dynion. 

"Rwy eisiau diolch i fy mhentref, Resolfen, fy nghapel, Eglwys Bedyddwyr Sardis, a chapel Rhydaman, a phawb nôl adre sydd wedi bod yn gweddïo drosta i," dywedodd yn Saesneg, "rwy'n falch o sawl peth, ond rwy'n falch o fod yn Gristion. Roedd Duw gyda fi heno ac rwy'n falch i fod yn ei gynrychioli e." 

Wrth i Daniel  godi o ddyfroedd y pwll nofio yng Ngemau Olympaidd yn Tokyo darlledwyd ei gyfweliad a gwrandawyd arno gan 51,5 o filoedd o weithiau ar y diwrnod cyntaf!

Nid tystiolaeth yn unig gafwyd, llwyddodd Daniel gyflwyno’i gariad at y Duw byw a’i bresenoliaeth yn ei fywyd ac iddo ei adnabod drwy’r Ysbryd Glan. Roedd ei awydd i weddïo ac i’w eglwys gartref  i weddïo a gofyn am gymorth yn arwyddion ei bod yn adnabod yr Arglwydd fel ei Achubwr ac yn  gyfarwydd a galw arno yn gyson am gymorth ac arweiniad.

Mae tystiolaeth pob un ohonom yn bwerus oherwydd ei bod yn stori am symud o bechod i fywyd newydd yn yr Arglwydd. Mae datgan ein tystiolaeth bersonol yn ffordd i rannu'r efengyl ag eraill trwy egluro’n profiad o iachawdwriaeth bersonol. Mae'n enghraifft arall o sut mae Duw yn newid bywydau.

Y gair tystiolaeth yn Hebraeg yw 'Aydooth' sy'n golygu 'ei wneud eto gyda'r un pŵer ac awdurdod' Bob tro rydyn ni'n siarad allan, neu'n darllen tystiolaeth rydyn ni'n dweud Arglwydd, 'gwna hynny eto' gyda'r un pŵer ac awdurdod.

Mae’r hyn a elwir yn ‘dystiolaeth Iesu’, yn golygu ein bod yn gwybod trwy ddatguddiad personol o’r Ysbryd Glân  mai Iesu yw’r Arglwydd; iddo ddod â bywyd ac anfarwoldeb i'r amlwg trwy'r efengyl; a'i fod wedi adfer yn y dydd hwn gyflawnder ei wirionedd tragwyddol.

Ni all tywyllwch herio’r tywyllwch. Mae ein taith bersonol yn un unigryw ac mae tystio i fawredd yr Arglwydd wrth iddo ein harwain o gyfyngder tywyllwch yn ein rhyddhau o gaethiwed i olau cyfiawnder.

Mae Daniel yn un o nifer o bobl ym myd chwaraeon sydd wedi datgan ei fydd yn gyhoeddus. Mae mewn cwmni da.  Gwyddom am Usain Bolt, Daniel Sturridge, Lewis Hamilton ac Emyr Lewis o Gymru wrth gwrs.

Beth yw eich tystiolaeth chi?

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Maddeuant

Next
Next

Dylanwadau