Yr Wythnos Fawr
Dydd Llun
Gobeithio fod pawb mewn iechyd da ac yn cadw'n ddiogel.
Yr wythnos hon yw wythnos fawr y Cristion yn arwain at y croeshoelio a'r atgyfodi. Gan fod yr wythnos yma mor bwysig mae'n fwriad gen i roi darnau bach o hanes yr wythnos bob dydd i chi wrth i ni ddathlu gwyl y Pasg.
Fe arhosodd yr Iesu ar y nos Sul ym Methania gyda Mair, Martha a Lasarus, oedd yn ffrindiau da iddo. Yna, yn y bore fe aeth i Jerwsalem gan anelu am y deml.
Gan ei bod yn Wyl roedd y lle yn fwrlwm i gyda llond lle o bobl yn brysur yn y ddinas ac yn y deml ei hunan. Yn un o gynteddoedd y deml roedd marchnad lle roedd wyn a cholomennod yn cael eu gwerthu.
Roedd y rhai oedd wedi teithio i Jerwsalem yn prynu rhain er mwyn eu haberthu yn y deml fel rhan o'r wyl. Oherwydd hynny fe wyddai'r gwerthwyr bod yn rhaid i'r bobl eu cael ac felly roedden nhw'n codi pris uchel amdanyn nhw, pris oedd llawer uwch na'u gwerth.
Gwerth colomen fel arfer er engraifft oedd pum ceiniog ond roedd ar werth yng nghyntedd y deml am saith deg pum ceiniog.
Ie, does dim byd newydd mewn trachwant mewn dynion ac ym mhob cyfnod, fel yr ydym wedi gweld, fe fydd pobl ddrwg yn manteisio ar y sefyllfa.
Yn ogystal a hyn roedd yn rhaid i bob Iddew dalu arian tuag at gynnal y deml yn Jerusalem a hynny yn arian y deml. Ond doedd gan yr Iddewon a deithiodd i Jerwsalem ddim ond arian Rhufeinig. O ganlyniad i hyn roedd yn rhaid newid arian yng nghyntedd y deml. Dyma lle gwelwn ni drachwant yn dangos ei wyneb hyll eto gan fod y cfynewidwyr arian yn gwneud elw mawr ar eu cefnau ac yn twyllo'r bobl.
Fe wylltiodd yr Iesu pan welodd e'r twyll a'r anonestrwydd yma a dechrau chwipio'r gwerthwyr a'u taflu allan o'r deml. Fe drodd y byrddau a'r cadeiriau a chwalu'r farchnad yn yfflon yn ei dymer a chyhoeddi -
"Gelwir fy nhÿ i yn dÿ gweddi i'r holl genhedloedd.
Ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron."
Ymosododd yr Iesu ar weithwyr y Deml, dynion oedd wedi eu penodi gan neb llai na'r Archoffeiriaid Caiaffas ac Annas. Wrth iddo wneud hyn, heriodd hawl yr Archoffeiriaid, nid yn unig i wneud ffortiwn o'u gweinidogaeth ond hefyd i arwain a rheoli crefydd pobl Dduw.
A oes yna neges i'r byd heddiw fan hyn? Daeth Crist yn Oleuni'r Byd sy'n parhau i lewyrchu'n awr yn ein plith.
Yng ngolwg yr awdurdodau, fe aeth y Saer o Nasareth yn rhy bell yn ei wrthryfel yn eu herbyn. Daethant ynghyd ar unwaith mewn dicter ac ofn. Roedd yn rhaid iddyn nhw newid eu ffordd neu roi taw ar yr Iesu yma -
yr un dewis sydd gennym ninnau wrth gwrs.
Cawn edrych ar eu penderfyniad yn ystod yr wythnos.
Fe allwch ddarllen yr hanes yn efengyl Luc, pennod 19, adnodau 45-48 neu yn ail bennod efengyl Ioan, adnodau 13-17.