Yr Wythnos Fawr

Photo by Maor Attias from Pexels

Photo by Maor Attias from Pexels

Dydd Mawrth

Fe dreuliodd Iesu Grist y dydd Mawrth yn dysgu a phregethu mewn iaith yr oedd y bobl yn ddeall. Roedd athrawon yng Ngwlad Canaan ar y pryd a elwid yn Rabbiniaid ond roedden nhw'n anodd eu deall.

Mae pregethu mewn iaith ddealladwy mor bwysig hyd y dydd heddiw.

 Ac oherwydd fod yr Iesu yn hawdd i'w ddilyn fe fyddai tyrfa fawr yn ymgasglu i wrando arno. Ar y diwrnod hwn y llefarodd amryw o ddamhegion megis dameg y ddau fab a dameg y winllan. Mi allwch ddarllen rheinny eich hunain.

Ond nid jest pregethu, fe fu dadlau hefyd.

 Roedd yr offeiriaid a'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn greulon iawn wrth yr Iesu. Fe gofiwch iddo ddod eu pechu wrth lanhau'r deml ddoe. Yn sgil hyn fe osodwyd cynllwyn i'w ladd. Fe anfonwyd pobl i ganol y dyrfa i ofyn cwestiynau bwriadol er mwyn ei ddal. Roedden nhw'n ceisio cael yr Iesu i ddweud rhywbeth fyddai'n troi'r bobl yn ei erbyn ac yn ceisio'i gael i drwbwl gyda'r Rhufeiniaid.

 Yn ystod y cyfnod yma roedd rhaid i bob Iddew dalu treth i Rufain - i Gesar. Felly gofynnodd un o'r dynion i'r Iesu "A yw'n iawn talu treth i Gesar?"

Dyma gwestiwn allai gael yr Iesu i drafferthion mawr - fe allai'r Iesu ddweud ei bod yn iawn i dalu treth i Gesar a byddai'r bobl yn troi yn ei erbyn. Ar y llaw arall os dywedai nad oedd yn iawn i dalu treth i Gesar fe fyddai mewn trwbwl gyda'r Rhufeiniaid.

 Ond fe welwn ddoethineb yr Iesu wrth iddo sylweddoli pam y gofynnwyd y cwestiwn ac fe atebodd -

"Talwch bethau Cesar i Gesar a phethau Duw i Dduw."

 Bu holi mawr ar yr Iesu drwy'r dydd a'r holi yn troi'n ddadlau ond roedd yr Iesu yn gweld trwy'r cwbl. Fel hyn yr holodd crefyddwyr y deml ef -

"Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn?"

Hynny yw - Pwy wyt ti'n meddwl wyt ti?

"Rwyt ti'n gosod dy hun yn uwch na gweision y Gyfraith a'r deml ac yn troi'r bobl oddi wrth eu hufudd-dod i'r henuriaid. Dim ond y Meseia ei hun all wneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud."

 Ond roedd yr Iesu yn drech na phob holwr. Mi ofynodd un o'r ysgrifenyddion iddo "Prun yw'r gorchymyn cyntaf?" 

Atebodd yr Iesu -

"Y cyntaf yw, Gwrando O Israel, y mae'r Arglwydd ein Duw yn un Arglwydd, a châr yr Arglwydd dy Dduw âth holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth. Yr ail yw hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun."

 Ie, câr dy gymydog ac onid dyna ein dyletswydd ninnau yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae'r rhai sy'n parhau i ymgasglu mewn parciau a mannau cyhoeddus wedi anghofio eu cymydog mae'n amlwg.

Mae'r rhai sydd wedi cynnig bod o gymorth i'r rhai mewn cymdeithas na all fynd allan eu hunain, yn ymarfer y gorchymyn 'câr dy gymydog.' Diolch amdanynt.

 Os darllenwch chi ddameg y ffigysbren fe welwch y geiriau "Bydded gennych ffydd yn Nuw" a rhaid i ninnau ymarfer y ffydd hwnnw heddiw.

Ein dyletswydd ni fel Cristnogion yw cyhoeddi ar adeg anodd fel hyn fod Duw ar gael bob amser ac i sicrhau fod ffrwyth ein coed ninnau yn plesio Duw. 

Rhaid meddwl am eraill a sicrhau fod ein heglwysi ar waith yn ein cymuned. Mae'n bwysig nawr, o bob cyfnod, ein bod yn rhoi ein Cristnogaeth ar waith.

Mae yna lawer mwy i hanes y dydd Mawrth wrth gwrs ac fe allwch ddarllen amdano ym mhennod 11 o efengyl Marc, pennod 21 o efengyl Mathew a phennod 20 o efengyl Luc.

 Carwch eich cymdogion.

 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Yr Wythnos Fawr

Next
Next

Yr Wythnos Fawr