Dewi Sant
Nid iawn yw sôn amdano; - ac ofer
Ei gyfarch ar ginio
Oni ddeil ei grefydd o
A'i heniaith fyth i'n huno.
A hithau'n gyfnod gwyl Dewi roeddwn yn ystyried pa mor ffodus ydw i wedi bod yn cael tyfu fyny a byw mewn ardaloedd mor Gymreig o ran iaith a naws. Mi gefais fy ngeni yn Deiniolen, pentref Cymraeg wrth droed y Wyddfa, symudais i Carno, oedd yn bentref amaethyddol Cymreig iawn yn Sir Drefaldwyn yn nechrau'r chwedegau, symud i dref Gymreig Porthmadog cyn symud i lawr i bentref cwbwl Gymreig Drefach.
Mae hyn i gyd wedi ffurfio fy mherspectif ar yr iaith Gymraeg a'i phwysigrwydd. Anaml yr ydw i wedi gorfod troi i siarad Saesneg yn ystod yr wythnos ar hyd y cyfnod ond mae pethau yn newid yn raddol mae arna i ofn. Pan oeddwn i yn ysgol y Gwendraeth, prin oedd y gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg ond Cymraeg oedd iaith yr iard. Erbyn heddiw ysgol Gymraeg (ddwyieithog) yw Maes yr Yrfa ond rwy'n cael ar ddeall fod Saesneg i'w glywed yn glir ar yr iard. Ie, rhyfedd o fyd.
Yn wahanol i'm cyfoedion mewn rhannau eraill o Gymru, efallai, dw i erioed wedi bod yn gyffyrddus gyda dwyieithrwydd gan mai yn Gymraeg y tueddai pob sgwrs fod. Yn y rhannau eraill roedd pobl yn tyfu fyny mewn awyrgylch o ddwyieithrwydd ac yn fwy cyfarwydd â Saesneg ar y stryd.
Pam fod pethau wedi newid? Dw i ddim yn credu fod ieuenctid heddiw yn gwerthfawrogi'r fraint sydd gyda nhw gan nad oedd rhaid iddyn nhw ymladd amdani efallai. Fe dyfais i fyny mewn cyfnod lle nad oedd ysgol Gymraeg gennym, dim teledu Cymraeg, dim arwyddion ffyrdd Cymraeg a dim ffurflenni Cymraeg swyddogol. Bu'n rhaid i nghenhedlaeth i ymladd am rhain i gyd.
Erbyn hyn mae rhain yn bethau mae ieuenctid heddiw yn gymryd yn ganiataol ond dylen nhw gofio fod pobl wedi bod yn y carchar i sicrhau'r pethau yma iddyn nhw ac mae lle gan Gymru i ddiolch i'r bobl hynny.
DYLANWAD Y CAPEL
Mae yna ffactor arall sydd wedi sicrhau bod yr iaith Gymraeg wedi goroesi yn ein hardaloedd hefyd - y capeli Cymraeg. Mae ein dyled fel cenedl i'r sefydliadau yma yn anferth ond yn un sydd yn cael ei hanghofio yn aml.
Ai cyd-ddigwyddiad yw e fod dirywiad yn yr iaith Gymraeg ar ein strydoedd yn cydfynd â dirywiad ein heglwysi?
Mae yna gyfeiriad deifiol sy'n cyplysu iaith a chapel yn un o'm hoff gerddi sef Cloi'r Hen Gapel, gwrandewch ar y pennill cyntaf -
Mae nhw’n cloi’r hen gapel ben bore dydd Llun
A does neb yno’n hidio, ‘does neb ar ddihun.
Datblygu mae addysg, diffygio mae dawn –
Clywch Saesneg y plant o’r ysgol y p’nawn.
Daeth oes gwadu Duw, oes pawb drosto’i hun,
Oes cloi yr hen gapel ben bore dydd Llun.
Arferwn deimlo bod y gerdd hon yn hen ffashiwn, dw i ddim mor siwr erbyn hyn! Mae'n beryglus o berthnasol.
Ydych chi wedi ystyried erioed mai dim ond dau beth sydd ar ôl yn y byd sydd yn gyfangwbl Gymraeg - yr Eisteddfod Genedlaethol a'r capel. O ganlyniad mae diogelu y ddau gorff yma yn tyfu'n bwysicach bob dydd.
Roedd Dewi Sant yn Gymro diwylliedig, ac wedi’i addysgu a’i drwytho
yn niwylliant gorau ei genedl.
Y mae Cristnogion sy’n siarad yr iaith Gymraeg, ac yn parchu diwylliant gorau ein cenedl, yn prinhau yn ein gwlad. Yng Nghymru heddiw, ar y naill law, ceir Cymry pybyr sy’n caru’r iaith a’i diwylliant, ac eto wedi cefnu ar yr Efengyl yn llwyr, ac ar y llaw arall ceir Cristnogion cywir eu ffydd a da eu buchedd sy wedi ymwrthod yn llwyr â’u gwreiddiau Cymreig.
DYLETSWYDD
Ar y bathodyn ar frest pob un ohonom yn ysgol ramadeg y Gwendraeth roedd y geiriau "Ymhob Braint y mae Dyletswydd". Mae'n fraint gallu siarad yr iaith hynaf yn Ewrop ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom. o bob oed a chefndir, ei chadw'n fyw i genhedlaethau'r dyfodol.
Felly, boed i ni Gymry barchu iaith ein cenedl, nid oherwydd fod yr iaith Gymraeg yn well nag unrhyw iaith arall, ond oherwydd mai’r iaith Gymraeg yw’r iaith a roddodd Duw i ni. Ac nid iaith yn unig y mae Duw wedi ei rhoi
inni fel Cymry, ond gwlad hardd i fyw ynddi, a diwylliant ac Efengyl.
Gwlad Gristnogol yw Cymru i fod, a’n braint ni a’n cyfrifoldeb yw sicrhau
hynny i’n plant, ac i blant ein plant. Dw i'n gorffen gyda galwad Saunders Lewis:
‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal yw Cymru fy ngwlad,
I’w thraddodi i’m plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth dragwyddol;
Ac wele’r moch yn rhuthro arni i’w maeddu.
Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion,
Cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch ataf i’r adwy,
Sefwch gyda mi yn y bwlch,
Fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.’