Hyd yr Eithaf

IMG_2791.jpg

1 Timotheus 4 : 8

Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach.

Maes chwaraeon yw fy niddordeb angerddol i fel y gwyddoch i gyd ac mae yna gysylltiad agos yn aml rhwng chwaraeon ac adloniant a byd y Cristion. Fe gewch chi hanes nifer o bobl enwog sydd yn barod iawn i arddel eu Cristnogaeth a thrafod eu ffydd a'u cred.

Rwy'n cofio gwylio'r 'Rumble in the Jungle' yn 1974 - gorenest focsio rhwng fy arwr mawr Muhammad Ali a George Foreman. Mae Foreman yn Gristion o argyhoeddiad. Fe ddaeth yn Gristion yn dilyn profiad erchyll ar ôl gornest yn 1997. Mi drodd at Grist am gysur ac am help i wella'i glwyfau.

Mi aeth Foreman gam ymhellach a dod yn weinidog ordeiniedig yn Houston ac mae wedi treulio'r blynyddoedd ers hynny yn rhannu ei ffydd gyda pobl.

Mi ddychwelodd Foreman i focsio yn ei bedwardegau ac fe ddaeth yn bencampwr pwysau trwm y byd yn 46 mlwydd oed cyn ymddeol - yr hynaf erioed i ddal y teitl.

Mae digwyddiadau mewn bywyd yn arwain pobl at Grist yn aml. 

Un o chwaraewyr peldroed mwyaf dawnus fy nghyfnod i yn tyfu fyny oedd yr ymosodwr croenddu Cyrille Regis. Fe drodd ef at Grist yn dilyn marwolaeth ei gyfaill ac asgellwr medrus, Laurie Cunningham, mewn damwain car yn Sbaen. Yn anffodus fe fu Cyrille farw yn 59 mlwydd oed yn 2018 ond mae'n werth darllen dyfyniad ganddo -

“I meet people all the time, some famous, some not who are all looking for hope and peace. I have learned that money cannot buy peace of mind so I simply tell people how I found hope and peace in God. The great thing about it is that anyone can have the peace that I have, you just need to know God.”

Dyw'r gwr cyflymaf yn y byd, Usain Bolt byth yn cuddio ei ffydd Gristnogol ac fe gyhoeddodd ar Twitter llynedd ar Wener y Groglith - 

"Never forget the true meaning of the day."

O ran y merched, mae'r redwraig Christine Ohurogu, pencampwraig Olympaidd yn y 400 medr, yn Gristion arall sydd am rannu ei ffydd -

‘God gives us talents and wants us to do our best regardless. God doesn’t promise that you’re always going to win; He doesn’t promise that it’s always going to be easy; He doesn’t promise that you’re going to be champion of the world all the time, but what He does say is, ‘Go and do the best you can; glorify Me while you’re doing it, and then all will be well.'

Mae'n siwr fod nifer ohonoch wedi clywed yr enw anghyffredin Bubba Watson wrth ddilyn y twrnamentau golff mawr. Dyma sut mae'n disgrifio ei hun ar ei broffeil Twitter - 'Cristion, Gwr, Tad, Golffiwr Proffesiynol.'

Un arall sydd yn arddel ei ffydd mewn ffordd wahanol yw'r gyrrwr fformiwla 1, Lewis Hamilton. Mae ganddo datw 'ffydd' ar ei ysgwydd a llun cwmpawd ar ei fron oherwydd, medde fe, 'yr eglwys yw fy nghwmpawd.'

Yng Nghymru mae nifer o chwaraewyr rygbi a chyn chwarewyr yn Gristnogion argyhoeddedig. Mae Rhys Patchell yn aelod o eglwys Minny Street, Caerdydd ac wedi ymddangos llynedd ar y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Mae Robin McBryde yn aelod ffyddlon yng nghapel Bethania, Y Tymbl ac roedd ei dad, John, yn arfer bod yn bregethwr lleyg.

Dau sydd yn mynd o gwmpas yn sôn am eu ffydd fel Cristnogion yw Emyr Lewis, cyn wythwr Cymru a Garin Jenkins, cyn fachwr Cymru.

Pan fydda i yn mynd i bregethu ym Mancyfelin un sydd yn y gynulleidfa bob tro yw cyn gapten y Scarlets, y Cymro a'r Llew, Delme Thomas. Roedd Delme yn arwr mawr i mi yn tyfu fyny ac mae ei weld yn y gynulleidfa yn codi calon dyn.

Mae llawer mwy o enwogion o feysydd adloniant eraill yn Gristnogion o argyhoeddiad wrth gwrs. Un sy'n croesi'r bont o fyd chwaraeon i fyd y ffilmiau yw'r arbennigwr mewn 'Martial Arts' a'r actor Chuck Norris. Mae Norris yn credu'n gryf y dylai'r Beibl fod yn chwarae rhan flaenllaw mewn ysgolion ac mae wedi ysgrifennu llyfrau Cristnogol.

Mae'r ddau frawd Alec a Stephen Baldwin wedi ymddangos mewn ffilmiau diweddar ac fe ddaeth Stephen Baldwin yn Gristion yn dilyn ymosodiadau 9/11. Mae'n teimlo fod ei ffydd wedi golygu ei fod wedi colli'r cyfle i chwarae rhai rhannau ac mae ganddo ef bwynt cryf iawn i'w gyhoeddi sydd yr un mor wir yn y wlad yma ag yn yr Amerig -

“I think it’s really terrifying that a country based on the foundations and ideals of God, is now systematically removing God from everything. Everything!”

Efallai mai'r actor mwyaf yn Hollywood sydd yn agored iawn am ei ffydd Gristnogol yw'r actor gwych Denzel Washington. Mae'n cyhoeddi ei fod yn darllen ei Feibl yn ddyddiol a'i fod yn cychwyn pob diwrnod gyda gweddi. Mae'n cadw ei slipars dan ei wely fel bod yn rhaid iddo benlinio bob bore!

Un o'r actoresau enwocaf mae'n siwr yw Jane Fonda ac mae hithau wedi darganfod gogoniant yr Arglwydd Iesu.

Annisgwyl efallai yw clywed fod y gwr cydnerth Mr.T oedd yn actio B.A.Barracus yn The A-Team a Clubber Lang yn y ffilm Rocky 3 yn gadarn yn ei ffydd Gristnogol. Roedd e, os cofiwch chi, yn arfer gwisgo llawer o aur am ei wddf ond yn dilyn Corwynt Katrina mi werthodd y cyfan a dyma ei resymeg -

“As a Christian, when I saw other people lose their lives and lose their land and property … I felt that it would be a sin before God for me to continue wearing my gold.”

Mae llawer mwy o Gristnogion enwog dw i'n gwybod ond roeddwn yn awyddus i rannnu geiriau'r bobl yma gyda chi er mwyn ein helpu i sylweddoli fod lle i bawb yn eglwys Iesu Grist, yn fawr a bach, yn hen ac ifanc, yn enwog a chyffredin. Diolch iddynt am rannu eu ffydd.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Y Ffordd

Next
Next

A Oes Heddwch?