Y Ffordd

sincerely-media-dGxOgeXAXm8-unsplash.jpg

Mae cymaint yn cyflwyno golwg dywyll ar ein dyfodol fel eglwysi dyddiau yma ond mae'n braf cael cyhoeddi fod gwydr nifer ohonom yn hanner llawn. Fe fydda i yn ymfalchio pan wela i luniau o aelodau yn cael eu derbyn mewn capeli boed yn Y Tyst neu ar wefannau cymdeithasol. Dyna oedd ein braint ninnau yn ddiweddar yn derbyn pedair merch ifanc ac fe fyddwn yn derbyn pedair arall yn y dyfodol agos.

Dyma'r math o weithred oedd yn codi calon dyn wrth fentro cychwyn ar gyfarfod grwp trafod dan gynllun Y Ffordd. Bu'r cyfarfodydd yn lwyddiant ysgubol hyd yma gyda dros ugain yn mynychu. Fel arfer, mewn grwpiau trafod o'r fath yr un hen wynebau sy'n ymddangos ond nid felly tro yma. Mae hyn yn profi i mi fod yna awydd i newid, awydd i symud ymlaen a dod allan yr ochr arall i'r anialwch gyda gwedd newydd.

Fe wnaed amryw sylwadau am bwysigrwydd y Beibl ond gellid crynhoi y cyfan gyda'r sylwadau - arweiniad, dangos y ffordd, dysgeidiaeth, sylfaen. Y farn yn gyffredinol oedd mai dyma'r llyfr oedd yn rhoi canllaw i fywyd ac felly does dim wedi newid yma. Mae mor berthnasol heddiw ag erioed.

Cafwyd trafodaeth agored a gonest ar y ffaith fod y Beibl yn anodd ei ddeall ar adegau, rhai geiriau yn annealladwy, rhai agweddau megis y creu ac arch Noa yn codi amheuon ymysg y ffyddlonaf. Y pwynt pwysig yma wrth gwrs yw nad yw amheuon yn eu hunain yn beth drwg; dim ond wrth holi mae darganfod yr ateb. Roedd yna gytundeb fod beibl.net wedi ychwanegu at y cyfoeth oedd gennym yn barod a doedd dim esgus bellach nad oedd yr eirfa yn ddealladwy. Wedi dweud hyn roedd gwahanol bobl yn hoff o wahanol argraffiadau o'r Beibl ac mae hynny i'w groesawu wrth reswm.

Cafwyd trafodaeth ar bregethau dealladwy yn ogystal ac roedd cytundeb fod hyn yn hanfodol, yn enwedig o ystyried ein bod wedi colli gafael ar y tô ifanc mewn nifer helaeth o eglwysi. Roedd cytundeb fod y neges yn aros ond bod sawl modd o'i gyflwyno erbyn hyn.

Gwnaed sylw diddorol nad oedd ryfedd fod pobl yn diystyrru'r Beibl gan eu bod yn diystyrru'r oedfa. Y Beibl sy'n rhoi cydwybod i ni, mae Duw yn siarad â ni wrth i ni ddarllen y Beibl ac yn yr un modd mae Duw yn siarad â ni mewn oedfa, boed yn oedfa gyffredin, yn gymun, yn gwrdd plant neu yn oedfa mwy cyfoes. Roedd hwn yn sylw cwbl ddilys gan nad yw aelodau'r gynulleidfa yn darllen eu Beibl o hyd heb sôn am rai nad ydynt yn gweld oedfa yn bwysig.

Trafodaeth ddifyr arall oedd yr un am y Cristion yn sefyll fyny dros ei hunan gan ein bod wedi mor dawedog am gyfnod hir bellach. Roedd teimlad y dylai Cristnogion sefyll i fyny a thystio yn hytrach na bod mor barod i ymddiheuro i bawb a phob un am eu cred. Efallai bod yna wers i ni gyd fan yna.

Fe drafodwyd y cwestiwn ydy byw yn dda yn ddigon ac a ydyw'n bosibl bod yn foesol heb fynd i'r cwrdd o gwbl? Mae hon yn hen drafodaeth mi wn ond roedd cytundeb bod rhaid cael sylfaen i fyw yn iawn ac roedd yn bur debygol fod y rhai oedd yn honni byw fel hyn nawr wedi cael y sylfaen gadarn yna flynyddoedd yn ôl. Y gofid felly yw beth fydd y sefyllfa mewn dwy neu dair cenhedlaeth?

Fe arweiniodd sôn am sylfaen ni at yr Ysgol Sul a dirywiad arbennig yr Ysgol Sul i blant mewn oedran uwchradd. Cafwyd un sylw diddorol tu hwnt am geisio sefydlu ryw fath o Ysgol Sul ar y wê i bobl ifanc ac mae hwn yn syniad yr hoffwn dreulio mwy o amser yn ei ystyried.

Roedd dealltwriaeth bod yn rhaid i ni edrych ar yr Hen Destament er mwyn iddo weithredu fel sylfaen i'r Testament Newydd ac roedd cytundeb na ellid diystyrru'r Hen Destament am fod rhai adnodau digon creulon ynddo. Yr hyn i'w gofio o hyd yw fod yr Iesu yn mynegi ".... ond yr wyf i'n dweud" ac mae hynny yn newid pwyslais yn aml.

Fe gyfaddefodd ambell un fod y Beibl wedi trawsnewid eu bywydau a rhannwyd profiadau personol. Roedd pawb yn sylweddoli fod yna engreifftiau ymysg pobl enwog dyngarol o ddylanwad y Beibl ac o air Duw.

Mae'r grwp wedi bod yn chwa o awyr iach ac mae'r trafodaethau wedi bod yn gwbl agored gyda mwyafrif llethol y criw sydd yn ymgynnull yn fodlon gwneud sylwadau. Rwyf wedi ceisio cadw'r grwp yma mor gymdeithasol a phosibl gan osgoi ei droi yn ddosbarth beiblaidd sydd yn astudiaeth cwbl wahanol. Gobeithio fy mod wedi deall yn iawn mai dyna oedd y bwriad!

Mae'n braf cael gwrando profiadau, cynnig syniadau yn ogystal a rhannu gofidiau a gobeithio'n fawr y bydd y rhaglen a'r grwp yn datblygu wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen.

Un peth sy'n sicr yn y trafodaethau i gyd - rhaid newid i oroesi!

 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Mae’n bwysig siarad.

Next
Next

Hyd yr Eithaf