Ein dyfodol ar-lein.

Screenshot 2021-02-26 at 09.01.47.png
 

Canlyniad yr holiadur ar ddylanwad y myfyrdodau ar-lein i aelodau a ffrindiau Capel Seion.


Roedd canlyniad yr holiadur yn bositif iawn wrth i bob aelod a atebodd ddatgan ei bod wedi mwynhau’r myfyrdodau a’r modd y’u cyfathrebwyd ac iddynt gael dylanwad positif ar ei bywydau.


Ceisiaf gasglu ynghyd yr ymatebion fel â ganlyn.

Mae’r myfyrdodau yn ‘bendant wedi llwyddo fel estyniad o’r eglwys i’n cartrefi ac wedi cadw’r aelodau mewn cysylltiad â’r eglwys. Mae cael y cyfle i addoli ar yr un adeg, gyda’n gilydd yn rhoi’r ymdeimlad o agosatrwydd, ac o glosio a’n cadw yn un gynulleidfa yn Nuw. Mae’r cyfnod dan glo wedi datgeli’r angen a’r awydd i ddal i addoli a hynny gyda phobl rydym yn ei adnabod ac mae cael egwyl i aros a chofio am eraill a chydymdeimlo mor werthfawr i’r galarus a llesol i’r gweddiwyr.

Mae gweddïau o hyd yn bwysig wrth gwrs ac mae parhau i allu clywed gweddi daer ac amserol ar y cyd yn gwneud ystyr o gariad Duw ar amser mor ddyrys. Mae yna deimlad ‘o berthyn’ wrth wybod bod aelodau eraill yn bresennol er ein bod dim yn gallu ei gweld, ar wahân i addoliad ar Zoom. Mae’n amlwg bod tawelwch y cartref a’r ffaith ei fod yn bosibl rheoli’r gwrandawiad yn gymorth mawr, yn enwedig i rai sy’n ffeindio hi’n anodd mynychu oedfa arferol. Bydd yn bosibl i rheini sydd yn methu mynychu oedfa barhau i wrando ar-lein pan fydd y cyfnod dan glo yn codi.

Mae cyd addoli ar-lein yn atgyfnerthu ffydd wrth i ni bellhau o’r adeilad ar y Sul ac mae’r myfyrdodau yn ein cadw’n agos ac mae cael ein hatgoffa o bobl lai ffodus yn rheoli’r ffocws a’n gwneud yn fwy diolchgar o’r hyn sydd gennym.
Mae’r cyfnod wedi ’n gwneud yn fwy hyderus i geisio ar fywyd mwy technolegol a chyrraedd fwy o bobl nad erioed o’r blaen, tua phum waith mwy yn aml. Mae’r dechnoleg yn rhoi cyfle i ni gyfathrebu a’r ieuenctid mewn ffordd sy’n ei chyrraedd a’i cadw mewn cysylltiad yn y cyfnod lle mae’n naturiol iddynt lithro. Mae’r cyfrwng wedi datgeli’r posibiliadau mawr sydd i’r Ysgol Sul fanteisio ar y dechnoleg mewn mwy nad un ffordd.

Yn y gorffennol roedd yn amhosibl, heb recordio, gael gwrando ar fyfyrdod fwy nag unwaith ar y Sul. Erbyn hy galwn wrando ar fyfyrdod sawl gwaith yr wythnos a’i gwrando ar amseroedd sydd mwy cyfleus i ni. Yn wir mae gwrando ar y myfyrdod eilwaith yn fodd i glywed rhywbeth newydd neu ystyried rhywbeth mewn ffordd wahanol. Mae’n bosibl hefyd i ddanfon cyfeiriad y linciau at berthnasau, ffrindiau ac aelodau o’r teulu oddi cartref, er mwyn ymestyn teyrnas Duw yn ôl ein cenhadaeth.

Cawsom ymateb bod natur y myfyrdodau wedi bod yn bositif a phwrpasol ac yn fodd i hogi ein ffydd gan iddynt ein hatgoffa o rinweddau’r Gair. Mae’n fodd i ni ddal i fyw ein bywydau ysbrydol ac i fynegi cariad Duw at ein gilydd ac eraill. Cawsom ddisgrifiadau fel ‘teimlad o berthyn’, ‘gobaith newydd’, ‘siarad yn uniongyrchol â mi’, ’agosatrwydd gwahanol ar-lein’ ac ‘atgyfnerthu fy ffydd” sy’n galonogol iawn wrth ystyried ei fod yn gyfrwng gymharol newydd i ni.

Mae dod i’r capel a chael amser i eistedd a gwrando ar gerddoriaeth yr organ yn ein paratoi ar glywed y Gair. Dyw hyn ddim yn digwydd gartref oni bai bod cerddoriaeth yn rhan o’r myfyrdod yn y dyfodol. Dyw troi’r myfyrdod arno ddim yn ddigon gan fod rhaid bod yn y ‘lle iawn’ i dderbyn yr ysbryd glan yn ein myfyrdod. Mae hyn i fyny i ni baratoi ein hun gartref.

Cloi:

1. Mae presenoliaeth yr Arglwydd trwy’r cyfrwng yn gaffaeliad ac yn fodd i ni ystyried ei barhau wedi Cofid mynd heibio. Cynnal ein ffydd yw beth mae’r gwasanaethau yn ei wneud. Fe fydd angen gweithgaredd sy’n unol a’n cenhadaeth i adeiladu’n fydd a chryfhau agweddau o’n fydd sydd angen atgyfnerthu.

2. Mae’n amlwg o gymharu â’n cenhadaeth, rhan ohono yw cyfraniad ein gwasanaethau ar-lein. Bydd yr Arglwydd yn gofalu am ei Eglwys, nyni sydd â chyfrifoldeb dros ei bobl Ef. Os mai adeiladu capasiti’r unigolyn i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder yw ein nod mae’n amlwg bod lle i’r eglwys draddodiadol a’i phwyslais ar weithgaredd dyngarol mor bwysig heddiw nag erioed.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Tîm Rygbi’r Beibl

Next
Next

Dewi Sant