Meddwl cryf.
Rhan 1
Pan ‘rydych yn meddwl am yr ymadrodd creu arferion iach mae’n debyg eich bod chi’n meddwl am fwyta’n iach, ymarfer corff a mynd i’r gwely’n gynnar. Mae'r rhain yn bethau gwych i'w gwneud ar gyfer eich iechyd corfforol, ond beth am greu arferion iach ar gyfer eich iechyd meddwl.
Mae cadw meddwl iach yr un mor bwysig â chadw corff iach oherwydd gall un ddylanwadu ar y llall yn hawdd.
Dyma rhai o bwyntiau i chi gofio.
Chi sy'n rheoli'ch emosiynau.
Gall dadl eich cynhyrfu neu rywun yn dweud bod angen i chi wneud rhywbeth yn well pan oeddech chi'n meddwl eich bod chi'n gwneud jobin da yn barod. Yn yr enghreifftiau hyn mae'n gwbl iawn i chi deimlo’n bryderus, yn flin neu hyd yn oed yn ddig. Nid yw teimlo'r emosiynau hyn yn eich gwneud chi'n wan, maent yn gwbl normal. Pan na fyddwch chi'n caniatáu i'r emosiynau negyddol hyn gymryd rheolaeth arnoch chi fe fyddwch yn datblygu’n gryf yn feddyliol.
Fe fydd peidio â chynhyrfu yn ystod ffrae er bod y digwyddiad wedi eich cynhyrfu yn gryfder hefyd.
Os byddwch yn teimlo’n drist, peidiwch adael y trymder eich llusgo i lawr, yn hytrach daliwch i symud ymlaen
Os fyddwch yn adnabod yr emosiynau negyddol ac yn eu cydnabod fe allwch chi eu prosesu'n dawel a gweithio trwyddynt. Mae hyn yn gadael i chi ddal i lwybro ymlaen gyda phen clir
Cwestiynu'ch meddyliau a'ch credoau.
Sut mae hyn yn eich gwneud chi'n gryf yn feddyliol. Trwy wneud hynny rydych chi'n herio'ch hun.
Mae cymaint o wybodaeth ar gael i ni’r dyddiau hyn a gall fod yn llethol i ddarganfod beth sy'n wir ai peidio. Ceisiwch beidio â derbyn yn ddall y wybodaeth rydych chi'n ei darllen neu'n ei glywed. Os ydych chi'n gryf yn feddyliol rydych chi'n cwestiynu ac yn meddwl yn feirniadol yn rheolaidd. Drwy gwestiynu mae hyn yn eich galluogi i gloddio'n ddyfnach a dysgu mwy, a dysgu am safbwyntiau pobl eraill hefyd. Mae hyn yn rhoi rheolaeth i chi dros y wybodaeth a ddarllenwch neu a chlywoch.
Ffiniau iach.
Ydych chi’n gollwng popeth i eraill neu'n caniatáu i eraill fanteisio arnoch chi. Mae creu ffiniau iach yn fan cychwyn ar gyfer cryfder meddwl. Mae ffiniau yn fesur o'ch hunan-barch. trwy greu'r ffiniau hyn bydd pobl yn deall sut i'ch trin chi. Heb ffiniau mae'n hawdd dweud ie wrth geisiadau neu bryderon a gofidiau pobl. Nid yw'n beth drwg i helpu eraill ond gall fod yn faich arnoch chi'n ddiangen. Cofiwch na allwch chi arllwys o gwpan gwag.
Yr wythnos nesaf:
Dysgu o gamgymeriadau, Rheoli amser ar y cyfryngau cymdeithasol a Gwneud amser i chi’ch hun.