Newid cyfeiriad.

RHAN 2

Mae modd apwyntio arweinydd neu arweinyddion ar eglwys wrth gwrs ac mae yna amryw o batrymau o arwain fel hyn. Mae’r undeb yn cydnabod bellach fod hyn yn un modd i symud yn ein blaenau. Yng Nghasnewydd er engraifft mae tîm o arweinwyr; yng Nghapel Seion mi gychwynais i fel arweinydd ond yn gwneud y rhan fwyaf o waith gweinidog; mewn rhai eglwysi mae arweinyddion yn gweithio ar y Sul yn unig gan hepgor yr ymweld ac yn y blaen. Efallai mai dyma’r ffordd ymlaen i rai. Cyn belled a’n bod yn cadw’r adnod yma o bennod 3 o’r llythr cyntaf at y Corinthiaid yn ein cof bydd popeth yn bosibl –

“Rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.”

Yn sicr, mae yna newid pwyslais mawr wedi bod mewn cymdeithas ond fe ddylem holi ein hunain a ydym ni wedi ceisio newid er mwyn cystadlu gyda’r newidiadau yma?

Rhaid i mi gydnabod mai cefnogaeth ydw i wedi gael wrth geisio gwneud newidiadau ond dw i’n amau nad yw hyn yn wir ym mhob eglwys yng Nghymru. Wedi dweud hynny, ydw i wedi gwneud digon o newidiadau? Fel yr ydw i wedi grybwyll eisioes rhaid i’r sylfaen aros ac fe fydd y neges yr un pa bynnag ddull a ddefnyddir.

Gan anghofio’r prinder gweinidogion am funud, mae difaterwch pobl yn gyffredinol tuag at eu heglwysi a neges yr Arglwydd Iesu Grist yn ofid calon i mi. Rydw i’n cynnal angladdau cynifer o bobl sydd heb fod yn agos i oedfa na gwasanaeth ers blynyddoedd – angladd Gristnogol wrth gwrs. Ynghlwm wrth y cwestiwn o ddenu pobl i’r weinidogaeth mae’r cwestiwn mwy efallai o sut i ddenu pobl yn ôl i oedfaon.

Hawdd i minnau holi – heb gynnig atebion! Ond efallai nad gan y gweinidog y mae’r atebion. Rydych chi gyd yn gymaint rhan o’r eglwys a’r gweinidog ac mae eich llais chi yr un mor bwysig. Os oes syniad gwych gan rywun peidiwch ag ofni ei rannu, yn enwedig gyda’r gweinidog!

Rhaid terfynu gyda geirau o lyfr cyntaf Pedr –

“Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi.”

Previous
Previous

Unigrwydd ac atgofion.

Next
Next

Newid cyfeiriad.