Parchu ein gilydd.
Mae pobl a'n perthynas gyda phobl yn bwysig yn ein cymdeithas ac yn ein cymuned a dyw hynny byth yn fwy gwir nag ar adeg y Nadolig. Mae dangos parch a chariad at ein gilydd, bod yn barod i gymodi ac wrth gwrs bod yn barod i faddau yn hanfodol er mwyn creu harmoni yn ein byd. Mi hoffwn rannu profiad ambell un gyda chi er mwyn i ni gyd ddysgu gwerthfawrogi ein gilydd y nadolig yma.
Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill.
Yn ystod fy ail flwyddyn yn y coleg cawsom, fel dosbarth, gwis ar ganu pop gan ein hathro. Roeddwn yn fyfyriwr cydwybodol ac fe atebais y cwestiynau i gyd yn hawdd hyd nes i mi gyrraedd y cwestiwn diwethaf: “Beth yw enw y fenyw sy’n glanhau’r ysgol?”
Mae’n rhaid mai joc oedd hwn. Roeddwn wedi gweld y fenyw sawl gwaith; roedd yn dal gyda gwallt tywyll ac yn ei phumdegau ond sut o’n i fod i wybod beth oedd ei henw? Mi roddais y papur mewn gan adael y cwestiwn olaf heb ei ateb. Jyst ar ddiwedd y wers gofynnodd un myfyriwr os oedd y cwestiwn olaf yn cyfri tuag at ein marciau. Wrth gwrs meddai’r athro. Yn eich gyrfaoedd byddwch yn cyfarfod a llawer o bobl, mae nhw i gyd yn bwysig ac yn haeddu eich sylw a’ch parch hyd yn oed os mai na gyd chi’n neud yw gwenu arnynt a dweud helo.
Anghofiais i fyth y wers yna. Mi ddysgais hefyd mai enw’r wraig oedd Dorothy.
Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.
Un noson, tua 11.30 roedd hen fenyw o dras American Affricanaidd yn sefyll ar ochr y ffordd fawr yn Alabama yn ceisio goroesi storm ddrwg o wynt a glaw. Roedd ei char wedi torri lawr ac roedd angen reid arni. Yn wlyb i’r croen mi benderfynodd chwifio ar y car nesaf ac fe stopiodd dyn ifanc gwyn i’w helpu – peth prin iawn yn yr ardal yma o’r Amerig yn y chwedegau lle bu cymaint o wrthdaro hiliol. Fe aeth y dyn a hi i le diogel a’i helpu i gael tacsi. Roedd y fenyw ar frys ond fe gymerodd gyfeiriad y dyn. Aeth 7 diwrnod heibio cyn i’r dyn glywed cnoc ar ei ddrws. Er mawr syndod iddo roedd teledu lliw fawr yn cael ei delifro iddo gyda nodyn yn sownd ynddi – Roedd yn darllen fel hyn – ‘Diolch am fy helpu ar y briffordd y noson o’r blaen. Roedd y glaw wedi treiddio trwy fy nillad gan dorri fy ysbryd yn ogystal ac yna fe ddaethoch chi. Oherwydd eich help chi fe lwyddais i gyrraedd erchwyn gwely fy ngwr jyst cyn iddo farw – Bendith Duw fo arnoch am fy helpu i ac am feddwl am eraill.’ Yn ddiffuant – Mrs.Nat King Cole.
Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd.
Yn ôl yn y dyddiau hynny pan oedd hufen ia yn costio llawer llai aeth bachgen 10 mlwydd oed mewn i siop goffi mewn gwesty yn yr Amerig ac eistedd wrth fwrdd. Rhoddodd y waitress wydr o ddwr o’i flaen.
“ Faint yw ice cream sundae” gofynnodd y crwt. “50 cents” atebodd y waitress. Tynnodd y bachgen ei arian o’i boced a’i studio. “ Wel, faint yw powlen blaen o hufen ia” gofynnodd. Erbyn hyn roedd nifer o gwsmeriaid yn aros am fwrdd ac roedd y waitress yn colli amynedd. “35 cents” atebodd yn swrth. “Fe gaf i’r hufen ia plaen” meddai’r crwt.
Daeth y waitress a’r hufen ia iddo, gadael y bill ar y bwrdd a gadael. Pan ddaeth y waitress yn ôl fe ddechreuodd lefen wrth glirio’r bwrdd. Yno, wedi eu gosod yn ddestlus ger y bowlen wag, roedd dwy nickel a pump ceiniog.Chi’n gweld doedd y bachgen ddim yn gallu cael yr ‘ice cream sundae’ achos fyddai dim digon ganddo i adael cildwrn iddi hi.
Egwyddorion pwysig i gyd - parchu pawb, helpu ein cymdogion a gwerthfawrogi gwasanaeth eraill. Boed i rhain fod yn sylfaen i'n gweithredoedd y nadolig hwn ac am y flwyddyn sydd i ddod. Dyma'r gwerthoedd sydd yn cael eu dysgu i ni yn y Beibl a cofiwch -
Gwnewch beth mae Duw'n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn.