
Make it stand out.
Whatever it is, the way you tell your story online can make all the difference.
Croeso i Gapel Seion
'Yn gwneuthur daioni na ddiogwn'
Mae Capel Seion yn hyrwyddo Efengyl Iesu Grist i deuluoedd, plant ac oedolion ifanc yn ardal Drefach (Llanelli) a'i chyffiniau. Oes angen eglwys ddibynadwy arnoch i gyflwyno neges yr Arglwydd Iesu Grist i'ch plentyn?
Oes angen eglwys arnoch i gyflwyno profiadau a dysgu sgiliau newydd i'ch plant bydd yn cyfoethogi eu bywydau?
Gallwn eich helpu i gyflawni pob un o’r anghenion hyn.
Hysbysfwrdd.
Cwrdd. Pob bore Sul am 10.30yb.
Sul y Plant. Ni fyddwn yn cynnal Ysgol Sul am gyfnod ond cynhelir Cwrdd Plant yn ei le.
Cwrdd Plant.
Oedfa Nadolig i'r plant am 2.00 ar bnawn Sul, Rhagfyr 12ed
Banc Bwyd. Byddwn yn casglu tuag at y Banc Bwyd ac yn derbyn eich cyfraniadau bob wythnos yn y capel neu yn ystod ein boreau coffi bob yn ail ddydd Mercher yn Hebron ( cofiwch yr un wythnos a’r bags sbwriel du yn Nrefach ).
Os oes unrhyw gwestiwn/sylw cysylltwch gyda fi ar unwaith.
Ein Cylchlythyr.
Mae pobl o bum cyfandir yn darllen amdanom erbyn hyn! Ble i chi?
Dewch, ymunwch gyda ni er mwyn derbyn trysorau’r eglwys yn syth i’ch ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Ni’n aros!
Ein Cartref.
Bu dathlu mawr yn 2012. Dathlu 300 mlynedd o’r eglwys hynaf yng Ngwm Gwendraeth. Ydyn, ‘ni yma o hyd’!
Pan fydd yn ddiogel i bawb, ymunwch â ni unwaith eto i ddathlu a diolch.
Ein Gwasanaeth. Pob wythnos ar YouTube. Ymunwch â ni!
Beth yw Pethau?
Cylchgrawn i aelodau a ffrindiau Capel Seion
Beth ddywedodd Dewi Sant wrthym ni? Ie “gwnewch y pethau bychain…”
Mae pethau bach yn arwain at bethau mawr yn y pen draw. Gallwn ni gyd ddim bod yn wleidyddion neu’n arweinwyr ond gallwn wneud llu o bethau bach sy’n hawsach o lawer i’w cyflawni ac yn rhwydd ei mabwysiadu yn rhan o’n bywyd bob dydd.
Mae Gwyn, gweinidog Capel Seion, Drefach, yn gefnogwr brwd o gefnogi a datblygu’r gymuned a phob wythnos mae’n paratoi blog, sef BloGwyn ar ein cyfer, er mwyn i ni allu perchnogi ein dyfodol.
Mae eglwys Capel Seion yn cyffwrdd a phawb yn y gymuned mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ac mae’r blogiau yn cynnig canllaw i fywyd yn ei gyflawner o adnabod yr Arglwydd Iesu.
Mae Pethau yn gylchgrawn hollol unigryw a chaiff ei gyhoeddi dwywaith y flwyddyn, ym mis Mehefin a mis Rhagfyr.
Os ydych yn tanysgrifio neu ymuno i dderbyn y blogiau a newyddion yr eglwys cewch y blogiau yn syth i’ch ffôn symudol neu dabled a chyfrifiadur. Gallwch hefyd ei gael trwy’r linc ar y botwm isod .
Ymunwch â ni ac os oes rhywbeth gennych i gyfrannu yna cysylltwch â ni. Rhannwch y cylchgrawn wrth wasgu ‘Share’ sydd ar dop y linc.
Yr Eglwys a’i Chenhadaeth.
Crist yn y Canol
Fe gyrhaeddwn ein gweledigaeth o wneud gwahaniaeth i fywyd bobl wrth ddilyn yr egwyddorion craidd o ofalu, parchu, grymuso a bod yn atebol wrth gadw safonau o’r radd flaenaf yn ein holl ymwneud a'r gymuned.
Pwy y'm ni?
Eglwys annibynnol Gymraeg ydym, yn gwasanaethu ardal Drefach a'i chyffiniau yng Nghwm Gwendraeth. Mae'r eglwys yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaeth eglwysig i blant, ieuenctid ac oedolion yn ardal y Mynydd Mawr.
Beth y'm ni’n gwneud?
Mae Capel Seion yn ddarparwr blaengar a dibynadwy sy’n cyflawni ei rôl fel eglwys mewn modd ymarferol a chyfoes.
Ein Cenhadaeth
I ysbrydoli pobl â gobaith a chariad Iesu. Gwneir hyn trwy gyfrannu at les plant, ieuenctid ac oedolion trwy ddarparu’r dylanwadau a phrofiadau ysbrydol ar gyfer datblygiad personol trwy weithgareddau integredig, addysg a chymuned.
Ein Gweledigaeth
I helpu plant, ieuenctid ac oedolion i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.
Gwasanaethau Cyfnod Cofid.
Adennill y Drefn Arferol.
Dychwelid i’r capel, y festri a Hebron.
Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar dudalen Cofid-19 am wybodaeth bellach am ddychwelid i adeiladau’r eglwys.
Dychwelid i’r capel.
Bydd y capel yn agor a’r oedfa yn dechrau am 10.30yb fel arfer. Pan ddowch atom gallwch barcio’r car yn y maes parcio neu ar ochr yr heol fawr. Gwisgwch fasg ac wrth ddod i mewn cadwch at reolau ymbellhau.
Wrth gyrraedd y cyntedd fe gewch eich croesawi a’ch annog i wisgo masg os nad oes un gennych, i ymbellhau ac i lanhau eich dwylo â diheintydd. Fe fyd y swyddog yn nodi eich henw a’ch rhif ffôn a phrofi eich tymheredd ac yn gofyn i chi os ydych yn teimlo unrhyw symptomau o’r clefyd Cofid-19. Yna bydd yn holi os ydych os ydych wedi bod mewn cysylltiad â rhywun a Chofid -19 neu wedi cael prawf Cofid-19 yn y bythefnos ddiwethaf.
O ganlyniad i atebion cadarnhaol fe gewch fynediad i’r capel a’ch tywys unffordd i eistedd yn y seddau sydd wedi eu neilltuo ac wedi’u hymbellhau yn ôl y rheolau. Cofiwch mai’n dra phosibl na fyddwch yn eistedd yn eich sedd arferol. Cofiwch barhau i wisgo masg a pheidio cyffwrdd a’r seddau os na fydd angen.
Trefn yr oedfa.
Fe fydd trefn yr oedfa fel sy’n arferol i ni ond ni fyddwn yn canu, yn hytrach bydd modd i fyfyrio i sain yr organ yn unig.
Byddwn yn derbyn cyfraniadau yn y casgliad yn y ffordd arferol ond mae’r cyfnod yma yn gyfle i chi ystyried cyfrannu trwy ddebyd uniongyrchol os oes modd gennych i wneud hyn. Cewch y ffurflenni gan eich arweinydd dosbarth.
Bydd Gwyn yn mynd i’r pulpud am 10.30yb, wedi’r gynulleidfa ymgynnull ac eistedd ac yn gadael gyntaf heb y gymrodoriaeth arferol yn y cyntedd. Bydd yr aelodau yn dilyn drwy system un ffordd ar ei ôl lle bydd y cyntaf i mewn bydd hefyd y cyntaf i fynd allan. Bydd pob aelod yn cael ei annog i lanhau ei dwylo ar y ffordd allan a gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn syth i’r car neu adref a pheidio ag ymgynnull tu allan gan dyma’r lle mae’r risg fwyaf i chi gael eich heintio.
Ni fydd yr Ysgol Sul yn ail ddechrau ar hyn o bryd ond fe fyddwn yn eich hysbysu o unrhyw newid i hyn.
Er byddwn ar agor i oedfaon, ni fydd angen i chi ymuno os nad ydych yn barod eto i wneud hynny. Bydd Gwyn yn paratoi'r un myfyrdod ag y mae’n traethu o’r pulpud ar gyfer ein myfyrdodau ar YouTube.
Beth i ddisgwyl yn ein oedfaon pan na fyddwn dan warchae Cofid-19
Os ydych yn newydd i Gapel Seion yna dyma beth i chi’n ddisgwyl.
Cysyllwch â’r tîm bugeiliol yma
Oedfaon Arferol
Mae’r capel yn agor ar y Sul a’r oedfa yn dechrau am 10.30yb. Pan ddowch atom gallwch barcio’r car yn y maes parcio neu ar ochr yr heol fawr. Ymunwch gyda’r aelodau wrth ddod i mewn a chewch eich croesawu yng nghyntedd y capel gan ein gweinidog a dau o’r diaconiaid. Bydd y diaconiaid yma’n barod iawn i’ch tywys i’ch sedd. Mae’r aelodau yng Nghapel Seion bron yn ddieithriad yn eistedd yn seddau’r teulu ond byddant yn siŵr o’ch croesawu atynt ar bob cyfle.
Mae trefn yr oedfa yn eithaf arferol ac yn parhau am tua awr. Wedi’r oedfa bydd ein gweinidog yn mwynhau sgwrs â phob aelod yn y cyntedd ac yna llwybro gartref wna’r mwyafrif wedi treulio peth amser yn sgwrsio a thynnu coes. Ar adegau arbennig byddwn yn cwrdd dros goffi a chacen yn y festri, rhywbeth mae pawb yn mwynhau.
Yr Ysgol Sul
Dewch a’r plant i’r Ysgol Sul yn festri’r Capel am 9.30yb i fwynhau storiâu a gweithgaredd creadigol yng nghwmni’r plant ac athrawon.
Bydd rhieni gan amlaf yn casglu’r plant cyn dechrau oedfa’r oedolion.
Bydd cwrdd arbennig i’r plant yn y capel unwaith y mis lle bydd y gweinidog yn cyflwyno storiâu a band cyfoes yn arwain y gerddoriaeth. Dyma fwy o wybodaeth i chi
Gwasanaethu’r Gymuned.
Canolfan Hebron
Adeiladwyd Canolfan Hebron ym 1908 fel festri eglwys Capel Seion ym mhentref Drefach ac mae wedi gwasanaethu'r cymunedau cyfagos fel canolfan adnoddau cymunedol ers dros ganrif. Mae gennym gymuned weithredol a chymdogol sy'n gofalu, cefnogi ac yn cyfrannu at les pentrefwyr a grwpiau cymunedol eraill. Canolfan Hebron yw calon y gweithgareddau hyn sy'n hyrwyddo datblygiad agored a chyfranogol mewn diwylliant o ddysgu traws-genhedlaethol.
Fel eglwys, mae'n ddyletswydd arnom i weithredu mewn ffordd foesol a chwarae rhan hanfodol wrth helpu eraill. Mae gweithgareddau Cristnogol a llawer o weithgareddau anghrefyddol yn digwydd yng Nghanolfan Hebron. Mae gallu'r gymuned i ddiwallu eu hanghenion yn dibynnu ar sgiliau pobl, ac mae angen adeilad priodol arnynt i'w gwasanaethu. Defnyddir y ganolfan fel cyfleuster gan sefydliadau a grwpiau cymunedol i hyrwyddo anghenion cymdeithasol.
Mae 2,750 o bobl ar gyfartaledd yn defnyddio Hebron yn flynyddol. Gyda'r cyfleoedd newydd o adnewyddu Hebron rydym yn disgwyl i hyn dyfu i dros 4,000 o ymweliadau bob blwyddyn. Bydd gwell adnoddau a chyfleusterau yn cynnig e hun i amryw o bosibiliadau er mwyn cwrdd ag anghenion ein cymuned.
Ewch i dudalen Canolfan Hebron, Canolfan Hebron, am fwy o wybodaeth.
Banc Bwyd
Bydd y banc bwyd ar agor bob dydd Mercher yn Hebron i dderbyn eich cyfraniadau wedi bygythiad Cofid.
Ymuno mewn cymrodoriaeth
Boreon Coffi
Ar ôl cyfnod Cofid byddwn yn ail gychwyn ein boreuon coffi yn Hebron, Drefach. Ymunwch â ni.
‘Yn gwneuthir daioni na ddiogwn’
Elusennau
Mae aelodau Capel Seion yn casglu ar gyfer nifer o elusennau yn ystod y flwyddyn. Gweler isod.
Elusennau a gefnogwyd gennym
Mae’r rhestr o elusennau a gefnogwyd yn tyfu bob blwyddyn.
Mae cael eich cefnogaeth yn gwneud gymaint o wahaniaeth.
Ymwelwch â ni.
Canolfan Hebron
Heol Cwmmawr
Drefach, Llanelli SA14 7AA
Cysylltwch
gwynelfyn@gmail.com
01269870893
07970 410278