Derbyn Maddeuant.
Rhedeg i Faddau.
Tymhorau Tŵf
Amser darllen: 7–8 munud
Adroddodd Iesu stori unwaith am dad oedd â dau fab. Rydym yn ei hadnabod fel Dameg y Mab Afradlon.
Mae’r mab ieuengaf yn mynnu ei etifeddiaeth ac yn gadael y cartref. Mae’n gwastraffu’r hyn a roddwyd iddo ac, yn y pen draw, mae’n ei gael ei hun yn dlawd ac yn ddiymgeledd. Yna daw un o eiliadau pwysicaf y stori. Mae’n rhoi’r gorau i wneud esgusodion. a chydnabod yr hyn y mae wedi’i wneud a phenderfynu dychwelyd adref a dweud:
“Yr wyf wedi pechu.”
Mae cymod yn dechrau gyda’r gwir.
Nid yw’r mab yn dychwelyd gan ddweud: “Dad, efallai ein bod ni’n dau wedi gwneud camgymeriadau.”
Nid yw’n ailysgrifennu hanes a rhoi’r bai ar ei amgylchiadau. Mae’n dod adref yn barod i gydnabod ei gamwedd. Ond yna mae Iesu’n cyflwyno rhywbeth rhyfeddol.
Mae’r tad yn ei weld yn dod o bell ar had y ffordd. Ac mae’n rhedeg tuag ato.
Cyn i’r mab allu trwsio popeth y mae wedi’i chwalu, mae’r tad yn ei gofleidio. Dyw’r tad ddim yn gwadu’r gorffennol. Mae’n gwrthod gadael i’r gorffennol benderfynu’r dyfodol.
Gall y mab oedd unwaith ar goll ddod adref. Gall y berthynas a dorrwyd ddechrau eto. Ac yn sydyn, nid yw’r ffordd y tu allan i dŷ’r tad hwnnw a’r ffordd i mewn i Trust Feed yn Ne Affrica yn ein stori ni yn ymddangos mor bell oddi wrth ei gilydd.
Mae’r ddwy yn gofyn i rywun wneud y daith yn ôl a gofyn am y gwir. Mae’r ddwy yn golygu bod yn agored ac yn fregus. Yn y ddwy, stori mae posibilrwydd o gael ein gwrthod ac mae’r ddwy stori yn gofyn yr un cwestiwn:
A all rhywbeth sydd wedi’i dorri ddod yn rhywbeth newydd?
Beth pe bai cenhedloedd yn ymddwyn fel hyn?
Dychmygwch gymhwyso’r egwyddorion hyn i rai o’r rhaniadau sydd yn ein byd.
Nid: Pwy allwn ni ei drechu?
ond: Pa wirionedd sydd angen ei glywed?
Nid: Sut gallwn ni fychanu ein gelyn?
ond: Beth ddigwyddodd i ddod â ni i’r fan hon?
Nid: Sut gallwn ni anghofio’r gorffennol?
ond: Sut gallwn ni ei gofio heb adael iddo ddinistrio’r dyfodol?
Nid yw hyn yn cynnig ateb hawdd i ryfeloedd y byd heddiw.
Mae angen cyfiawnder ar wledydd. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cyflawni troseddau fod yn atebol ac mae dioddefwyr yn haeddu cael eu cydnabod a’u hamddiffyn.
Nid yw cymod yn cymryd lle cyfiawnder.
Ond dangosodd De Affrica bosibilrwydd arall: weithiau gall cyfiawnder ofyn nid yn unig:
“Sut y dylid cosbi’r sawl sydd wedi gwneud cam?”
ond hefyd: “Sut gallwn ddechrau atgyweirio’r hyn sydd wedi’i dorri?”
Efallai fod dirfawr angen y cwestiwn hwnnw ar ein byd. Oherwydd, yn y pen draw, mae’n rhaid i bob gwrthdaro wynebu realiti anodd:
Ar ôl i’r ymladd ddod i ben, mae’n rhaid i bobl fyw yn rhywle o hyd.
Mae’n rhaid i rywun ailadeiladu’r tai a i rywun addysgu’r plant. Mae’n rhaid i rywun groesi’r ffin onde mae’n rhaid i rywun fyw drws nesaf i rywun sydd â hanes gwahanol i’w hanes ef.
Ac yn y pen draw, mae’n rhaid i rywun benderfynu na fydd casineb yn cael ei drosglwyddo, yn gyfan ac yn ddigyfnewid, i’r genhedlaeth nesaf.
A beth amdanom ni?
Mae’n hawdd darllen am Dde Affrica a meddwl mai stori am arlywyddion, archesgobion, llywodraethau a hanes yw hon.
Ond fel arfer mae cymod yn dechrau mewn lle llawer llai. Wrth fwrdd y gegin neu mewn cyfarfod eglwys. Rhwng dau gymydog., o fewn teulu, galwad ffôn sydd wedi’i hosgoi., cyfeillgarwch a gollwyd flynyddoedd yn ôl.
Efallai fod gennym ninnau ein fersiynau ein hunain o apartheid — muriau rydym yn eu codi rhwng “ni” a “nhw”. Dylai’r eglwys a’r gymuned fod yn ddau le lle gall y muriau hynny ddechrau cwympo. Nid am nad yw gwahaniaethau o bwys a nid am y dylid anwybyddu camwedd chwaith. Ond oherwydd bod y Cristion yn credu rhywbeth rhyfeddol:
Nid oes rhaid i neb aros am byth yn garcharor i’r peth gwaethaf sydd wedi digwydd — nac i’r peth gwaethaf y mae ef ei hun wedi’i wneud.
Dyna feddylfryd yr atgyfodiad.
Mae Duw bob amser yn agor y posibilrwydd o bennod arall.
_________________________________
Pum Peth i’w Cofio
1. Dywedwch y gwir.
Anaml y mae iachâd yn dechrau drwy esgus nad oes dim o’i le. Os oes rhywbeth o’i le, bydded gennym y dewrder i’w enwi — yn dyner, yn deg ac yn onest.
2. Dysgwch ddweud: “Roeddwn i’n anghywir.”
Nid: “Mae’n ddrwg gen i eich bod wedi cael eich tramgwyddo.”
Nid: “Gwnaed camgymeriadau.”
Weithiau, y geiriau Cristnogol mwyaf grymus yw’r rhai symlaf:
“Roeddwn i’n anghywir. Wnewch chi faddau i mi?”
3. Gwrandewch ar stori rhywun arall.
Ni allwn gymodi â phobl os ydym yn gwrthod gwrando ar eu poen.
Nid yw gwrando o reidrwydd yn golygu cytuno.
Mae’n golygu cydnabod dynoliaeth y person sy’n siarad.
4. Gofynnwch beth y gellir ei atgyweirio.
Mae stori Brian Mitchell yn ein hatgoffa y gall ymddiheuriad arwain at weithredu.
A oes rhywbeth yr ydym wedi’i niweidio y gallwn helpu i’w ailadeiladu — perthynas, ymddiriedaeth, enw da, cymuned neu gyfeillgarwch?
5. Gwrthodwch drosglwyddo casineb.
Efallai mai dyma’r her fwyaf.
Rydym yn etifeddu atgofion, teyrngarwch ac, weithiau, ragfarnau.
Gallwn ddweud wrth y genhedlaeth nesaf beth ddigwyddodd heb ddysgu iddynt bwy y dylent ei gasáu.
_________________________________
Her i’n Cymuned
Efallai, yn ystod mis Awst, y gallem bob un ohonom feddwl am un weithred fach o gymod.
Siarad â rhywun. Gwrando ar rywun. Ymddiheuro. Gwahodd rhywun am baned.
Cywiro rhywbeth yr ydym wedi’i ddweud. Gwrthod ailadrodd stori sy’n niweidio rhywun. Ceisio deall pam mae rhywun arall yn gweld y byd yn wahanol i ni.
Ni fydd yr un o’r pethau hyn yn gwneud penawdau’r papurau newydd. Ond wnaeth y tad oedd yn aros ar ben y ffordd ddim chwaith.
Mae Iesu fel petai’n awgrymu bod Teyrnas Dduw yn aml yn dechrau gyda phethau bach iawn.
Drws yn agor. Gwirionedd yn cael ei ddweud. Ymddiheuriad yn cael ei gynnig. Llaw yn cael ei hestyn. Person yn dod adref.
Roedd Comisiwn Gwirionedd a Chymod De Affrica ymhell o fod yn berffaith. Ni ddiflannodd clwyfau apartheid, ac mae llawer o’i ganlyniadau’n parhau hyd heddiw.
Ond gofynnodd gwestiwn sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i Dde Affrica:
A oes rhaid i’n gorffennol bob amser benderfynu ein dyfodol?
Roedd ateb Desmond Tutu yng nghynnwys teitl ei lyfr:
No Future Without Forgiveness — Dim Dyfodol Heb Faddeuant.
Roedd Iesu wedi mynegi’r un gobaith ymhell cyn hynny.
Gall fod pennod arall.
Ond mae’n rhaid i rywun gymryd y cam cyntaf ar hyd y ffordd.
Ac efallai, weithiau, mai ni yw’r rhywun hwnnw.