Rwyt yn cael dy garu.

Rwyt yn cael dy garu.

Erthygl yn seiliedig ar ‘The Boy, the Mole, the Fox and the Horse.’

Charlie Mackesy: Artist ac awdur

https://youtube.com/shorts/pkl12horqbU?si=4LnU3qdus-7vuHIV

“Mae’n teimlo fel bod gennym ni ffordd mor bell i fynd,” meddai’r bachgen.
Faint ohonom sydd wedi sibrwd yr un peth—yn dawel yn ein calonnau, neu hyd yn oed trwy ddagrau? Gall bywyd deimlo’n llethol. Mae heriau ein hoes, y baich personol rydym yn ei gario, a phryder am yfory yn gallu gwneud i’r ffordd o’n blaen ymddangos yn amhosibl o hir.

“Fi’n deall… ond edrycha mor bell rydym wedi dod,” meddai’r ceffyl.
Yn aml, mae gobaith yn dechrau gyda chofio. Mae Duw yn ein galw nid yn unig i edrych ymlaen, ond hefyd i edrych yn ôl a gweld Ei ffyddlondeb. Mae’r Beibl yn ein hannog dro ar ôl tro i gofio’r daith—sut arweiniodd Duw Ei bobl trwy’r anialwch, sut cerddodd Iesu gyda’i ddisgyblion gam wrth gam, sut y mae’r Eglwys wedi cerdded trwy ganrifoedd o newid a her ac eto’n sefyll fel goleuni gras.

Efallai ein bod wedi blino, ond ‘dy ni ddim wedi cerdded ar ein pen ein hunain. Mae pob gweddi wedi’i hateb, pob eiliad o gysur annisgwyl, pob cam ymlaen—yn atgofion ein bod yn symud, hyd yn oed os yw’r symudiad yn fach a thawel.

“Ond dw i ddim yn meddwl y gallaf wneud hyn… Dw i byth yn mynd i ddod o hyd i gartref,” meddai’r bachgen.
Mae unigrwydd dwfn y mae llawer yn ei deimlo ond prin yn ei leisio. Teimlad o beidio perthyn, o beidio ffitio i mewn, neu o beidio gwybod i ble mae bywyd yn mynd. Ond hanfod y stori Gristnogol yw stori perthyn. Nid yw Duw yn gadael y crwydryn. Mae Iesu yn croesawu’r blinedig a’r rhai sy’n chwilio. Dechreuodd yr Eglwys fel cymuned o’r rhai a oedd unwaith ar goll, ac a ddaeth o hyd i gartref yng Nghrist ac yng nghwmni ei gilydd.

“Wyt ti’n gwybod… weithiau mae dy feddwl yn chwarae triciau arnat,” meddai’r llwynog.
Gwyddom fod hyn yn wir. Gall ofn sibrwd yn uwch na ffydd. Gall amheuaeth deimlo’n drymach na thrawsnewid. Gall y byd o’n cwmpas fod yn llawn o leisiau sy’n dweud nad ydym yn ddigon da.

Ond yna daw’r gwirionedd tyner:

“Rwyt ti’n cael dy garu ac wyt ti’n bwysig, ac rwyt ti’n dod â phethau i’r byd na all neb arall wneud. Felly dal ati.”

Mae hyn yn fwy na geiriau cysurus; dyma wirionedd yr Efengyl. Duw a greodd y sêr a’th luniodd di gyda phwrpas. Estynnodd Iesu Ei freichiau ar y groes drostot ti—gan dy alw wrth dy enw, gydag amcan, ac mewn cariad. Mae’r Ysbryd Glân yn rhoi’r gallu i bob un ohonom na all neb arall ei chyflawni yn yr un ffordd. Yn nheyrnas Duw, mae pob bywyd yn bwysig, mae pob taith yn cyfrif, ac mae pob person yn perthyn.

Fel adlodau o’r eglwys, ein galwad yw atseinio’r gwirionedd hwnnw. Bod yn le, lle nad oes angen i bobl esgus bod yn gryf i gael eu derbyn. Lle gall amheuaeth gael ei chario’n ddiogel, lle mae dagrau’n cael croeso, lle gall calonnau blinedig orffwys. Nid lle i addoli’n unig, ond lle o gynhesrwydd, croeso a gobaith. Wrth edrych ymlaen at ddyfodol ein cymuned, boed inni gario’r gwirionedd hwn gyda ni a’i ddweud dros eraill.

Felly daliwch ati. Dy’ ni ddim yn cerdded ar ein pennau ein hunain. Mae ‘na le i bob un ohonom. Rydym i gyd yn perthyn.


Rwyt ti’n cael dy garu.

Previous
Previous

Cynhwysiant Heb Amodau.

Next
Next

Geiriau Syml