Ebrill

Gwyn Elfyn Jones

WYTHNOS 14

Ebrill 10fed - Ebrill 17eg

Rhyfel Wcrain.

Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi symud yn gyflym ers yr wythnos ddiwethaf ac erbyn hyn mae dros filiwn yn ffoaduriaid. Er na chawsom gyfle i gasglu dillad a nwyddau ar ddechrau’r ymosodiad mae’r awdurdodau wedi datgan mai’r ffordd orau i ni helpu pobl Wcráin yw danfon arian trwy Cymorth Cristnogol ar gyfer DEC Wcráin ( Disaster Emergency Committee ).

Mae’r diaconiaid wedi cwrdd ac wedi penderfynu danfon mil o bunnoedd at yr achos yn Wcráin.

Mae eglwys Capel Seion, Drefach yn ddiolchgar iawn i bawb gyfranodd i apel Wcráin dros yr wythnosau diwethaf.

Er nad yw’r casglu wedi gorffen fe fyddwn yn danfon ein cyfraniad cyntaf £2,168 at Gymorth Cristnogol.

Diolch o galon i chi sydd wedi cyfrannu mewn gair, gweithred a rhoddion haeli’r ymgyrch dyngarol hwn.

Dyma’r trydydd waith mewn canrif i’r Wcráin ddioddef y fath drychineb.

__________________________________________

Gwasanaethau’r Pasg

Ymunwch â ni'r Pasg yma er mwyn cwrdd â’r Arglwyd atgyfodedig.

Dydd Gwener y Groglith am 10.30yb

Dydd Sul y Pasg am 10.30yb pan bydd Bethesda Y Tymbl a Nazareth, Pontiets yn ymuno â ni.

__________________________________________

Banc Bwyd

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

__________________________________________

Cwrdd Chwarter

Cynhaliwyd cyfarfod y Gwanwyn yng Nghapel Seion.

Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus o’r Cwrdd Chwarter yng Nghapel Seion dan arweiniad llywydd y Cwrdd Chwarter, Y Parchedig Gwyn Elfyn Jones. Cafwyd anerchiad a chyflwyniad grymus gan Gwyn lle’r trosglwyddodd yr awenau i’r llywydd nesaf, sef Mr Gethin Thomas.

Dymunwn i gyd pob llwyddiant i Gethin yn ei rôl bwysig i’r eglwys annibynnol yng Nghymru a hynny yng nghyfnod mwyaf heriol i’r eglwys yn gyffredinol.

__________________________________________

Bore Coffi

Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!

Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )

  • Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.

__________________________________________

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Ebrill

Next
Next

Mawrth