Mawrth
Oedfaon yn y Capel.
Mae’r oedfaon wedi dechrau yn y capel ers dechrau’r mis ac edrychwn ymlaen at groesawi aelodau a ffrindiau yn ôl i wasanaethau’r eglwys.
*******
Rhyfel Wcrain.
Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi symud yn gyflym ers yr wythnos ddiwethaf ac erbyn hyn mae dros filiwn yn ffoaduriaid. Er na chawsom gyfle i gasglu dillad a nwyddau ar ddechrau’r ymosodiad mae’r awdurdodau wedi datgan mai’r ffordd orau i ni helpu pobl Wcráin yw danfon arian trwy Cymorth Cristnogol ar gyfer DEC Wcráin ( Disaster Emergency Committee ).
Mae’r diaconiaid wedi cwrdd ac wedi penderfynu danfon mil o bunnoedd at yr achos yn Wcráin.
Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar y poster.
Bydd y swm yma yn:
Darparu cyflenwadau hylendid hanfodol i 60 o bobl am fis.
Darparu blancedi ar gyfer 80 teulu.
Darparu bwyd brys i 20 teulu am fis.
Bydd y trychineb siŵr o ddatblygu ymhellach ac felly gofynnwn yn garedig i aelodau Capel Seion ymateb drwy gyfrannu ei rhoddion ariannol yn y modd arferol yn ein gwasanaethau dros yr wythnosau nesaf. Cynhaliwn apêl yn ein boreau coffi yn ogystal.
Dyma’r trydydd waith mewn canrif i’r Wcráin ddioddef y fath drychineb.
__________________________________________
Banc Bwyd
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
Darllenwch llythyr diolch Meidrim o Fanc Bwyd Rhydaman yma.
__________________________________________
Bore Coffi
Mae’r Bore Coffi wedi ail-ddechrau! Hwre!
Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )
Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.
__________________________________________
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’