BloGwyn
Mae’r eglwys yn mynd i bob cyfeiriad, mae’n cyffwrdd a bywydau pawb mewn rhyw ffordd neu gilydd.
Dylanwadau
Mae cyfeillion ac arferion bore oes yn dylanwadu cymaint arnom fel unigolion, yn llunio ein dyfodol yn ddiarwybod i ni bron.
Ble mae dyn?
Oherwydd ein bod ni yn credu fod y problemau mor fawr fel na fydd ein barn ni yn cyfrif rydym yn sefyll yn ôl ac yn gwylio o'r ochr. Rydym yn gwybod fod yr hyn sy'n digwydd yn anghywir ond yn gwneud dim. Allwn ni ddim beio Duw am hynny - ein bai ni yw hynny!
Rwy’n ddisgybl yn barod.
Mae bod yn ddisgybl yn dechrau cyn i rywun ddod at Grist! Dyma'r model Beiblaidd. Dyma'r un sy'n gweithio orau. A phan fyddwn ni'n gwneud y newid paradeim hwn mae'n newid popeth.
Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 3.
Mae bron pob arweinydd eglwys neu ei haelodau wedi cael ei siomi nid yn unig gan feirniaid ar hap ond maen nhw hefyd wedi cael eu siomi neu gan o leiaf un ffrind, cyswllt neu gydweithiwr tymor hir sydd wedi dangos amheuaeth a’r drefn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hynny'n dangos ymhellach pa mor anodd yw hi i bawb.
Iechd da.
Wrth wrando'n ddyddiol ar y newyddion cawn ein hysgwyd yn aml gan ddigwyddiadau echrydus mewn llawer rhan o’n byd, megis daeargrynfeydd dychrynllyd, gwyntoedd cryfion, llifogydd mawrion, afiechydon angheuol, rhyfeloedd dieflig, a thlodi a newyn sy’n achosi i filiynau o bobl farw mewn sefyllfaoedd trist i’r eithaf.
Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 2
Rydym, pob aelod yn weinidog i’r eglwys rydym yn perthyn iddi. I ateb y cwestiwn i fod yn weinidog mewn amser mor heriol, y gwir yw na allwch chi. O leiaf ddim yn hawdd ond bydd yn rhaid i ni o hyn ymlaen.
Gwneud Gwahaniaeth
Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.
Mae pob aelod yn ddisgybl. Rhan 1.
Nid yw'r aelod nodweddiadol o'r eglwys yn nodi ei hun fel gweinidog nac yn gwybod sut i gyflawni gweinidogaeth yn ei fywyd bob dydd.
Nid dy fai di
Mae’r apostol Paul yn sôn am ddraenen yn ei ochr iddo bledio ar Dduw deirgwaith i’w dynnu (2 Cor. 12: 7–10). Nid yw ysgolheigion Beiblaidd yn siŵr yn union beth oedd problem Paul, ond fe fydd person mewn cyfyngder yn aml yn pledio ar i Dduw dynnu hyn oddi wrthynt.
Neges George Carlin
Yr eironi mawr am ein cyfnod ni mewn hanes yw fod gennym adeiladau uchel ond tymer byr, heolydd lletach ond safbwyntiau cul. Rydym yn gwario mwy ond mae llai gennym, yn prynu mwy ond yn mwynhau llai. Mae gennym dai mawr a theuluoedd bach, mwy o gyfleusterau ond llai o amser.
Ti ishe swap?
Yr wythnos yma rwy'n cynnwys blog gan gyfaill i mi sy'n weinidog yn ardal Dolgellau, Dinas Mawddwy a Llanfair Caereinion - Parch.Euron Hughes. Mae Euron yn gefnogwr peldroed brwd - cefnogwr Everton, fel fy nhaid innau - ac mae wedi defnyddio agwedd ar y diddordeb hwnnw i gyfleu negs i ni wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau a roed arnom yn ddiweddar. Diolch iddo am gyfrannu at y blog a phob bendith arno ef a'i eglwysi.
Teimlo'n annheilwng?
Mae'r Beibl wedi'i lenwi â phobl amherffaith sy'n gwasanaethu Duw. Rydyn ni'n gwybod am Abraham, Joseff, Moses, Dafydd, Pedr, Paul, a llawer o gymeriadau eraill o'r Beibl a gafodd eu torri. Mae eu pechod yn cael ei arddangos yn llawn ar dudalennau'r Ysgrythur. Gwelwn hefyd fod Duw wedi eu defnyddio at ei ddibenion.
Mae’n bwysig siarad.
Yn 2020, COVID-19 oedd y trydydd prif achos marwolaeth yn ôl y Deyrnas Unedig. Ond mae'r effaith hyd yn oed yn fwy. Rydym yn pentyrru galar ar ben galar, ac mae'r effeithiau corfforol a meddyliol yn ddinistriol. Mae pryder ac iselder ar gynnydd, ac nid ydym eto wedi deall effaith domino lawn y pandemig hwn.
Y Ffordd
Mae cymaint yn cyflwyno golwg dywyll ar ein dyfodol fel eglwysi dyddiau yma ond mae'n braf cael cyhoeddi fod gwydr nifer ohonom yn hanner llawn. Fe fydda i yn ymfalchio pan wela i luniau o aelodau yn cael eu derbyn mewn capeli boed yn Y Tyst neu ar wefannau cymdeithasol. Dyna oedd ein braint ninnau yn ddiweddar yn derbyn pedair merch ifanc ac fe fyddwn yn derbyn pedair arall yn y dyfodol agos.
Hyd yr Eithaf
Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach.
A Oes Heddwch?
Fe ddywedodd Thomas à Kempis, ‘Y mae’r gwir heddychwr yn caru heddwch, yn cadw heddwch ac yn creu heddwch.’ Gwaetha’r modd y mae’r math hwn o heddychwr yn brin iawn heddiw yn y byd, ac oddimewn i Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist.‘
Cyfnod Aur
Mae'n siwr bod yna gyfnod aur neu gyfnod euraidd ym mywyd pob un ohonom wrth fwrw cip yn ôl i'r gorffennol. Roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely yn meddwl am hyn ac mi ddeuthum i'r canlyniad mai fy nghyfnod yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth rhwng 1976 a 78 oedd fy nghyfnod i. Mae cymaint o fwynhad y cyfnod yma wedi dylanwadu ar wahanol agweddau o mywyd.
Rhoi’r cyfan.
Stori wir am gariad yw hon o un o gymoedd de ddwyrain Cymru. Mae’r stori wedi’i addasu rhywfaint bach ac mae enwau’r prif gymeriadau wedi newid. Falle bydd y stori yn gyfle wrth i ni gyd geisio deall dyfnder cariad plentyn.
Yr Wythnos Fawr
Heddiw yw “Dydd Gwener y Groglith,” i goffáu croeshoeliad Iesu. Ond y farwolaeth arteithiol honno o Fab Duw oedd yr anghyfiawnder mwyaf erchyll yn hanes dyn