
BloGwyn
Mae’r eglwys yn mynd i bob cyfeiriad, mae’n cyffwrdd a bywydau pawb mewn rhyw ffordd neu gilydd.
Hyd yr Eithaf
Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach.
A Oes Heddwch?
Fe ddywedodd Thomas à Kempis, ‘Y mae’r gwir heddychwr yn caru heddwch, yn cadw heddwch ac yn creu heddwch.’ Gwaetha’r modd y mae’r math hwn o heddychwr yn brin iawn heddiw yn y byd, ac oddimewn i Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist.‘
Cyfnod Aur
Mae'n siwr bod yna gyfnod aur neu gyfnod euraidd ym mywyd pob un ohonom wrth fwrw cip yn ôl i'r gorffennol. Roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely yn meddwl am hyn ac mi ddeuthum i'r canlyniad mai fy nghyfnod yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth rhwng 1976 a 78 oedd fy nghyfnod i. Mae cymaint o fwynhad y cyfnod yma wedi dylanwadu ar wahanol agweddau o mywyd.
Rhoi’r cyfan.
Stori wir am gariad yw hon o un o gymoedd de ddwyrain Cymru. Mae’r stori wedi’i addasu rhywfaint bach ac mae enwau’r prif gymeriadau wedi newid. Falle bydd y stori yn gyfle wrth i ni gyd geisio deall dyfnder cariad plentyn.
Yr Wythnos Fawr
Heddiw yw “Dydd Gwener y Groglith,” i goffáu croeshoeliad Iesu. Ond y farwolaeth arteithiol honno o Fab Duw oedd yr anghyfiawnder mwyaf erchyll yn hanes dyn
Yr Wythnos Fawr
Diwrnod trist arall oedd y dydd Iau gan i Jiwdas gyflawni ei addewid i'r prif offeiriaid a bradychu yr Iesu.
Dyma noson y Swper Olaf wrth gwrs, swper gyda'i ddisgyblion a'r Iesu yn llwyr ymwybodol o'r hyn oedd o'i flaen. Roedd yn gweld y groes.
Yr Wythnos Fawr
Dyma un o ddiwrnodau mwyaf trist yr wythnos efallai gan mai heddiw y cawn ni glywed am benderfyniad Jiwdas Iscariot - y disgybl a drodd yn fradwr.
Fe wyddom erbyn hyn fod y prif offeiriaid yn awyddus i gael gwared ar yr Iesu a pan ddaeth Jiwdas atynt a chynnig bradychu yr Iesu roedden nhw wrth eu bodd. Fe fyddai Jiwdas yn cael ei wobrwyo yn ariannol ganddyn nhw.
Yr Wythnos Fawr
Fe dreuliodd Iesu Grist y dydd Mawrth yn dysgu a phregethu mewn iaith yr oedd y bobl yn ddeall. Roedd athrawon yng Ngwlad Canaan ar y pryd a elwid yn Rabbiniaid ond roedden nhw'n anodd eu deall.
Mae pregethu mewn iaith ddealladwy mor bwysig hyd y dydd heddiw.
Yr Wythnos Fawr
Yr wythnos hon yw wythnos fawr y Cristion yn arwain at y croeshoelio a'r atgyfodi.
Gan fod yr wythnos yma mor bwysig mae'n fwriad gen i roi darnau bach o hanes yr wythnos bob dydd i chi wrth i ni ddathlu gwyl y Pasg.
Y Gymanfa Ganu
Wrth dyfu fyny trwy fy arddegau roedd tri dyddiad neu gyfnod o'r flwyddyn yn bwysig i mi - cyfnod twrnament rygbi y 5 gwlad, diwrnod rownd derfynol cwpan yr F.A. a Sul y Blodau.
Hiwmor Iach
Mae yna le i hiwmor ym myd yr eglwys ac ym myd y Cristion. Dw i wedi casglu nifer o engreifftiau o hiwmor crefyddol, neu beiblaidd os hoffwch chi, ac rydw i am rannu nifer gyda chi er mwyn dangos yr hyn dw i'n ceisio ei dddweud!
Tîm Rygbi’r Beibl
Petai rygbi yn gem i bobl ei chwarae dwy fil o flynyddoedd yn ôl, byddai cymeriadau’r Beibl wedi ennill capiau di-ri dros ei gwlad.
Ein dyfodol ar-lein.
Canlyniad yr holiadur ar ddylanwad y myfyrdodau ar-lein i aelodau a ffrindiau Capel Seion.