BloGwyn

Mae’r eglwys yn mynd i bob cyfeiriad, mae’n cyffwrdd a bywydau pawb mewn rhyw ffordd neu gilydd.

Capel Seion Capel Seion

Breuddwyd Bell

Argraffiad cyfyngedig o sengl newydd Breuddwyd Bell, wedi’i lofnodi gan Trystan - perffaith ar gyfer yr hosan Nadolig!

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Diolch am y Nadolig

Mae'r nadolig yn golygu llawer o bethau gwahanol i nifer o bobl. Mi fyddwn i yn dadlau mai adeg i ddangos cariad ydyw yn bennaf, amser i fwynhau gyda'r teulu, i rannu anrhegion a bwyd. Ond cariad sydd bwysicaf. Mi ddysgodd un athrawes hyn pan gafodd anrheg un Nadolig gan fachgen bach gyda bochau coch yn ei dosbarth. Gwrandewch arni yn rhannu ei stori.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Stori’r Geni

Mae Nadolig yn dod a gwahanol atgofion a theimladau i bobol – hapusrwydd, tristwch, unigrwydd ….beth yw y Nadolig i chi?

Un cof o’m plentyndod ar y ffarm ydi magu cywion twrcis, ac yna, cymdogion, teulu a ffrindie yn dod wythnos cyn ‘Dolig i helpu I’w paratoi i’r cigydd a’r farchnad. Wythnos lle roedd y ty, y garej ar stabal yn llawn hwyl a chymdeithas, gan ddweud imi fod Dydd Nadolig yn agosau. 

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Parchu ein gilydd.

Mae pobl a'n perthynas gyda phobl yn bwysig yn ein cymdeithas ac yn ein cymuned a dyw hynny byth yn fwy gwir nag ar adeg y Nadolig. Mae dangos parch a chariad at ein gilydd, bod yn barod i gymodi ac wrth gwrs bod yn barod i faddau yn hanfodol er mwyn creu harmoni yn ein byd. Mi hoffwn rannu profiad ambell un gyda chi er mwyn i ni gyd ddysgu gwerthfawrogi ein gilydd y nadolig yma.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Traddodiadau.

"Mae gofyn bod yn ofalus na fydd traddodiad yn troi yn fynwent i ni" Parch.Wilbur Lloyd Roberts

Traddodiad yw un genhedlaeth yn trosglwyddo gwybodaeth, credoau neu arferion i’r genhedlaeth nesaf mewn cyswllt cymdeithasol arbennig. Mae’r arferion hynny yn datblygu i fod yn draddodiadau teuluol neu gymdeithasol.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Nam ar y ffôn.

Ar un o'r silffoedd llyfrau yn fy stydi mae llyfr Cen - Munud i Feddwl - yn eistedd ac es ati i agor y clawr unwaith yn rhagor a bwrw golwg ar ambell stori. Mi ddes ar draws un oedd yn taro deuddeg - Nam ar y ffôn

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Gair Duw yn unig.

“Ydy, mae gwair yn gwywo a blodau yn pylu, ond mae gair ein Duw yn para am byth.” ISAIAH 48: 6

Yn ôl astudiaeth newydd gan Gallup, nid y peth mwyaf poblogaidd yn yr eglwys heddiw yw'r addoliad ac nid y gweinidog chwaith! Nid y mwg a'r goleuadau a dim y te a’r coffi wrth gyfarfod wedi’r oedfa. Y peth mwyaf poblogaidd yw'r pregethu. Nid yn unig y pregethu, ond ffurf benodol iawn arno sef pregethu yn seiliedig ar y Beibl.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Dilyn Fi.

“Cymerwch y cam cyntaf mewn ffydd. Sdim rhaid i chi weld y grisiau i gyd, jest cymerwch y cam cyntaf.” Geiriau Martin Luther King.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Torri calon.

Mae'n ddiddorol sut rydyn ni mor gyflym eisiau trwsio pethau pan maen nhw'n torri - yn enwedig pan mae'n rhywbeth mor bersonol ac agos atoch. Ond weithiau, yn ein hawydd dwfn i drwsio popeth sydd wedi'i dorri, rydyn ni'n anghofio pa gyfle y gallai ei gynnig i gynyddu ein ffydd.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Pan fydd Duw yn dawel

Er ei fod yn dorcalonnus ac yn greulon, mae marwolaeth Iesu yn nwylo'r weithred gariad harddaf a welodd y byd hwn erioed. Ac er bod yr Ysgrythurau’n paentio llinell amser epig hyfryd o’r digwyddiad hwn, mae yna un rhan sydd fel petai wedi creu chwilfrydedd o fewn fy nghalon - amser distawrwydd Duw tra roedd Iesu ar y groes.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Caethwasiaeth Fodern

Mewn byd lle mae teithio rhyngwladol yn beth cyffredin, mae caethwasiaeth fodern yn broblem fyd-eang. Ond mae'n anodd dod o hyd i ystadegau cywir gan fod cymaint o bobl gaeth yn gudd neu'n anweledig. Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys sawl agwedd - masnachu mewn pobl, cam-drin rhywiol, camfanteisio ar lafur ac yn y blaen

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Gweddïo

Mae gennym ni rym gweddi ar flaenau ein bysedd. Ond onid yw'n ddoniol ein bod ni'n cael ein hunain yn chwilio am sut i weddïo pan yn gofidio neu dan straen.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Camdrin Plant

“Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.”

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Llawenydd

Daw llawenydd mewn nifer o ffyrdd i nifer o fobl ac mewn nifer o amgylchiadau.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Albert Schweitzer

Yn ddiweddar mi ddes i ar draws ychydig nodiadau ar fywyd Albert Schweitzer, gwr enwog iawn yn y ganrif ddiwethaf. Fe ysgrifennwyd y nodiadau yma yn 1960, sef y flwyddyn y cefais i fy ngeni, pan oedd Albert Schweitzer yn 85 mlwydd oed. Dw i wedi clywed amdano ond ychydig o'i hanes sydd yn gyfarwydd i mi. Dw i'n amau yn gryf iawn a fyddai ieuenctid heddiw neu oedolion ifancach na fi yn gyfarwydd ag ef o gwbl.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Yr Eglwys ôl-Cofid. Rhan 2.

Unwaith y bydd cyfleoedd cymdeithasol a heriau'r dyfodol yn gliriach, gall eglwysi ystyried o'r diwedd sut i addasu eu rhaglenni a hyfforddi eu harweinwyr.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Eglwys ôl-Cofid

Mae'r mwyafrif o eglwysi o leiaf wedi addasu dros dro i gyfyngiadau COVID-19, ac mae'r sgwrs ymhlith arweinwyr eglwysig wedi symud ymlaen i ystyried sut olwg fydd ar yr eglwys a'i gweinidogaethau ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi (neu eu lleddfu o leiaf).

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Y dechrau a’r diwedd.

Mae geni a marw yn dod i ran pob yr un ohonom, mewn sawl modd, ond yr un yw'r canlyniad yn y pen draw. Yr hyn sydd yn amrywio wrth gwrs yw'r defnydd a wnawn o'r amser rhwng y ddau achlysur yma.

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Maddeuant

Darlun Rembrandt o "The Return of the Prodigal Son" sef "Dychweliad y Mab Afradlon".

Read More
Gwyn Elfyn Jones Gwyn Elfyn Jones

Daniel yn tystio.

Mae datgan ffydd a thystiolaethu i bŵer yr Arglwydd yn ein bywyd, yn enwedig heddiw pan mae gymaint o ymateb anffafriol ar lwyfannau cymdeithasol, yn dangos argyhoeddiad a hyder o’r radd flaenaf.

Read More